Grwpiau Darllen

Ydych chi erioed wedi darllen llyfr wnaeth wneud i chi chwerthin?  Neu lefen? Neu eich gwylltio chi?

Mae Grwpiau Darllen yn llefydd i bobl gwrdd i siarad am y llyfrau maen nhw wedi eu darllen a rhannu eu profiadau darllen. Maen nhw'n ffordd o brofi awdur newydd, a chanfod sut y mae pobl eraill yn cael eu heffeithio gan y llyfrau maen nhw'n eu darllen.  Mae grwpiau darllen yn cwrdd yn unrhyw le - mewn llyfrgell, ysgol, tafarn, neu yng nghartref rhywun.

Mae grwpiau darllen iau ac oedolion yn cwrdd bob mis yn Llyfrgelloedd Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon. Hefyd ceir grŵp darllen i rai yn eu harddegau sy'n cwrdd yn Llyfrgell Pont-y-pŵl. Cysylltwch â Llyfrgell Cwmbrân neu Bont-y-pŵl am ragor o wybodaeth.

Gall Llyfrgelloedd Torfaen gynnig cymorth i grwpiau darllen lleol mewn sawl ffordd:

  • Casgliadau Llyfrau – casgliad o gopïau lluosog o lyfrau, ar gael i'w defnyddio gan grwpiau darllen yn Nhorfaen. Mae amryiaeth eang o wahanol genres gan wahanol awduron ar gael, pob un yn sicr o ennyn ymateb! 
  • Mae gan Lyfrgelloedd Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân ystafelloedd cyfarfod y gall grwpiau darllen eu defnyddio.  Cysylltwch â'ch llyfrgell leol am fanylion.
  • Gall llyfrgellwyr argymell llyfrau ar gyfer eich grŵp darllen.
  • Gallwn gynghori ar sefydlu grŵp darllen newydd.

Mae llawer o gyhoeddwyr bellach yn darparu canllawiau i ddarllenwyr llyfrau ar gyfer grwpiau darllen eu defnyddio, ee www.bloomsbury.com

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Torfaen Libraries

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig