Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref

Ydych chi’n un o drigolion Torfaen sy’n methu â mynd i’r llyfrgell oherwydd salwch, anabledd, analluogrwydd neu gyfrifoldebau gofalu?

Oes yna neb a fedr ddod â llyfrau yn rheolaidd i chi?

Medrwn ni helpu! Gall y llyfrgell ddod atoch chi gyda’n Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref. Mae hwn yn wasanaeth dosbarthu AM DDIM, yn dod â llyfrau a llyfrau sain i’ch cartref bob tair wythnos.

I wneud cais am y gwasanaeth hwn, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen 

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig