Yn wreiddiol, cafodd y Groto Cregyn ei hadeiladu fel tŷ haf ar gyfer teulu’r Hanbury, ac mae’n adeilad rhestredig Gradd II. Mae symlrwydd y tu allan yn cuddio cyfrinach y tu mewn – waliau a nenfydau wedi eu haddurno â chregyn, a’r llawr yn darlunio siapau blodau a chalonnau wedi eu gwneud o esgyrn.