Archaeoleg Gwirfoddol

Mae Gwirfoddoli yn brofiad gwerthfawr. Gallwch gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, dechrau eich gyrfa, ac wrth gwrs, ennill teimlad mawr o foddhad wrth gefnogi a gofalu am dreftadaeth Torfaen.

Mae gwirfoddoli yn ymrwymiad, a wnaed am ddim, i brosiect neu brosiectau, yn Nhorfaen yn rheolaidd dros gyfnod parhaus o amser. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwirfoddoli rhwng 2-10 awr y mis. Mae gennym gyfleoedd ar gyfer pob oed, ac mewn amrywiaeth o wahanol feysydd.

Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn Treftadaeth Torfaen. Pa bynnag ffordd y byddwch yn penderfynu i gymryd rhan, byddwch yn ymuno â grŵp cynyddol o bobl sy'n ymroddedig i gefnogi a chynnal treftadaeth leol Torfaen.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich profiad cymaint ag yr ydym ni yn mwynhau edrych ar ôl Treftadaeth Torfaen.

Gwirfoddoli Archaeolegol

Grŵp Archeolegol Blaenafon 

Cangen o’r grŵp gwirfoddolwyr Tirlwedd Angof, mae'r grŵp hwn yn ymroddedig i ofalu am yr henebion o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Maent yn cyfarfod tua unwaith y mis ac yn cynnal cofnodion, monitro a gwaith cadwraeth, ac weithiau cloddio. Cysylltwch â'r grŵp drwy bwheg@hotmail.co.uk os hoffech fynychu gweithgaredd blasu neu ymuno â'r grŵp, neu i gael rhagor o wybodaeth am y grŵp ewch i dudalen Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon ar  Facebook.

Cymdeithas Cwmbrân Hynafol

Mae Cymdeithas Cwmbrân Hynafol yn grwp archaeoleg sy'n arbenigo yn archaeoleg Cwmbrân, er eu bod yn edrych ymhellach. Fel aelod byddwch yn cael cyfleoedd i wirfoddoli mewn cloddiadau yn ogystal ag ymchwilio a mynychu sgyrsiau ar hanes lleol, a gefnogir yn aml gan brifysgol Cymru. Mae aelodaeth i’r gymdeithas hon yn costio: £5.00 y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.ancientcwmbran.co.uk

Gwirfoddoli yn yr Amgueddfa

Amgueddrfa Pont-y-pŵl

Mae gan Amgueddfa Pont-y-pwl amrywiaeth o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli, megis Cynorthwyydd Llyfrgell a Cynorthwyydd Ymchwil, Chynorthwyydd Gweinyddol a Marchnata, a Chynorthwyydd Siop Goffi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: 01495 752036 neu e-bostiwch: torfaenmuseum@outllook.com

Amgueddfa Cordell a Chymuned Blaenafon

Mae amgueddfa Cordell wastad yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu agor a rhedeg yr amgueddfa. Mae'r oriau'n hyblyg, ac mae cyfleoedd i weithio gydag archifau, casgliadau a hanes teuluol. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch blaenavonmuseum@outlook.com

Gwirfoddoli yn yr Awyr Agored a Chadwraeth

Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon

Ydych chi'n frwdfrydig am dirwedd, bywyd gwyllt a hanes? Ydych chi’n mwynhau bod yn yr awyr agored? A oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â gweithgareddau ymarferol gyda phobl o'r un meddylfryd? Gallai ymuno â'r Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon fod y cyfle yr ydych wedi bod yn chwilio amdano! Mae amrywiaeth o dasgau rheolaidd sy'n helpu i warchod, gwella a hyrwyddo treftadaeth naturiol a diwylliannol gwerthfawr yr ardal yn cael eu cyflawni. Cysylltwch â’r grŵp ar bwheg@hotmail.co.uk os hoffech fynychu gweithgaredd blasu neu ymuno â'r grŵp, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen grŵp y Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon ar Facebook.

Cyfleoedd Eraill i Wirfoddoli’n lleol yn y maes Treftadaeth

Melin Llanyrafon

Mae Melin Llanyrafon yn chwilio am wirfoddolwyr i agor Melin o’r 17eg ganrif i'r cyhoedd. Gall yr ymrwymiad fod cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch. I wirfoddoli ar y safle hwn mae'n rhaid i chi fod yn aelod o "gyfeillion y Felin” sy'n costio £5.00 y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Marion Davies - E-bost: marmill@marmill321.plus.com

Cynorthwywyr Addysg Treftadaeth y Byd

Mae Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn chwilio am bobl sy'n hoffi gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu a chynorthwyo'r gwaith o gyflawni'r rhaglen Addysg Treftadaeth y Byd newydd. Mae'r rôl hon yn destun archwiliad cofnod troseddol a geirda canolwyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ashleigh Taylor, Swyddog Datblygu Treftadaeth Cymunedol - E-bost: ashleigh.taylor@torfaen.gov.uk

Gwirfoddoli i Ieuenctid

Llysgenhadon Treftadaeth y Byd

Mae Llysgenhadon Treftadaeth y Byd yn gynllun newydd sy'n hyfforddi pobl ifanc i ofalu am a chynrychioli Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon trwy gyflwyno gweithdai rhyngweithiol, gan weithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiectau a thrwy waith cadwraeth ymarferol. Os ydych yn 11 -25 oed ac â diddordeb, cysylltwch â Ashleigh Taylor ar ashleigh.taylor@torfaen.gov.uk

Lleoliadau Gwaith

Os ydych dros 18 oed ac â diddordeb mewn lleoliad gwaith mewn Treftadaeth, cysylltwch â'r Swyddog Treftadaeth a all wneud cynnig unigryw wedi ei theilwra i chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Treftadaeth Cymunedol

Ffôn: 01633 648209

E-bost: ashleigh.taylor@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig