Cynllun Noson Allan

Night Out LogoCynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Noson Allan, sy'n helpu hyrwyddwyr gwirfoddol lleol i gynnal perfformiadau mewn neuaddau pentref a lleoliadau cymunedol eraill ledled Cymru.

Mae wedi'i lunio ar gyfer: canolfan gymunedol, neuadd bentref neu sefydliadau cymunedol eraill yng Nghymru

Sydd am: gynnal perfformiadau gan ddiddanwyr proffesiynol yn eich ardal leol, heb gur pen na risg ariannol.

Sut mae'n gweithio

Cysylltwch â swyddfa Noson Allan neu ewch i www.nosonallan.org.uk am syniadau gwych ar gyfer sioeau sy'n addas ar gyfer eich neuadd, neu gallwch neilltuo perfformwyr proffesiynol rydych chi wedi'u darganfod rhywle arall, fodd bynnag, nid ydym yn cynnwys pantomeimiau nac artistiaid teyrnged.

Cysylltwch â'r perfformiwr, sicrhewch ei fod/bod yn gweddu i'ch lleoliad, gofynnwch beth sydd ei eisiau arno/arni a ph'un a all ddarparu deunyddiau cyhoeddusrwydd ai peidio, yna penderfynwch ar ddyddiad bras. Gwnewch gais i Noson Allan naill ai ar-lein neu drwy lenwi'r ffurflen neilltuo syml sydd â 3 thudalen o leiaf bedair wythnos cyn y digwyddiad, ond yn gynharach, os yn bosibl. Dylai pris tocynnau adlewyrchu gwerth y sioe a'r hyn y gall eich cymuned ei fforddio; gall tocynnau gael eu hargraffu ar eich cyfer yn rhad ac am ddim, os ydych yn dymuno.

Noson Allan sy'n talu ffioedd y perfformiwr a all amrywio'n fawr, gan gostio hyd at £850. Cewch y perfformiwr am bris safonol is â chymhorthdal, sy'n 50% o'r ffi lawn hyd at uchafswm o £300 ar hyn o bryd (£200 os yw'r lleoliad mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf). Ym mhob achos bron, gallwn drefnu bod hyn yn cael ei warantu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan eich awdurdod lleol, fel bod eich risg o golli arian yn cael ei ddileu neu ei leihau cymaint â phosibl. Mae'n bosibl trefnu sioeau drutach sy'n costio mwy nag £850 hyd at uchafswm o £1,500 os oes modd i chi roi'r arian ychwanegol tuag atynt.

Cynnal y digwyddiad

Chi sy'n gyfrifol am gynnal y digwyddiad, felly sicrhewch fod gennych bobl eraill i helpu â'r llwyth gwaith. Holwch eich awdurdod lleol i weld a oes angen Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro neu drwydded arall - bydd rhaid i chi wneud cais am hwn o leiaf deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os na fyddwch yn gwneud cais mewn pryd, bydd rhaid i chi ganslo'r digwyddiad ac efallai y byddwch yn atebol i dalu ffioedd canslo. Gofynnwch i'r perfformwyr pryd y byddwch yn cael deunyddiau cyhoeddusrwydd neu wybodaeth i'r wasg, faint o'r gloch y mae angen iddynt osod pethau ar gyfer y sioe, sut caiff y llwyfan ei threfnu, ble y gallant newid eu dillad, unrhyw faterion technegol ac a fydd eisiau bwyd neu ddiod arnynt ar y noson.

Neilltuo sioe

Hyrwyddwch y digwyddiad yn y wasg leol ac yn eich cymuned; rhowch bosteri i fyny, cofiwch y cyfryngau cymdeithasol a phwysigrwydd y gair ar y stryd. Cofiwch gydnabod cefnogaeth Noson Allan a chynnwys gwybodaeth am fynediad i bobl anabl yn y lleoliad (mae logos ar gael yn www.nosonallan.org.uk). Yn y digwyddiad ei hun, cyflwynwch y sioe o'r llwyfan a soniwch a oes egwyl neu beidio, ewch trwy ystyriaethau iechyd a diogelwch sylfaenol (allanfeydd tân, diffodd ffonau symudol ac ati) a chydnabod cefnogaeth Noson Allan ac unrhyw noddwyr eraill. Oni bai y dywed y perfformwyr fel arall, caewch y bar neu'r siop fwyd yn ystod y perfformiad a sicrhewch nad yw'r raffl yn ystod yr egwyl yn para rhy hir.

Ar ôl y digwyddiad

Ni sy'n talu'r ffi lawn i'r perfformiwr wedi i ni gael anfoneb a ffurflen adrodd. Rydych chi'n llenwi'r ffurflen adrodd syml gan ddatgan eich incwm o docynnau ac yn anfon unrhyw incwm hyd at y swm a warantwyd o £300/£200 at swyddfa Noson Allan. Os na chodwch £300/£200 ond bod gennych warant gan yr awdurdod lleol, bydd hon yn gwneud yn iawn am y gwahaniaeth. Anfonwch yr holl incwm sydd gennych o docynnau a byddwn yn anfon bil at eich awdurdod lleol am y diffyg. Rydym yn disgwyl i chi wneud eich gorau glas i werthu tocynnau. Os gwnewch fwy na £300/£200, cewch gadw'r £100 nesaf o elw. Dylid dychwelyd unrhyw arian ychwanegol, hyd at gost lawn y perfformiwr, i swyddfa Noson Allan er mwyn i ni gefnogi digwyddiad rhywun arall. Cofiwch fod hyn ond yn berthnasol i'r incwm o docynnau. Cewch chi gadw unrhyw arian sy'n cael ei godi trwy werthu lluniaeth neu docynnau raffl.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o gymorth a chyngor ar hyrwyddo eich digwyddiadau, gan gynnwys 'Paratoi at Noson Allan Wych' ac 'Mae'n Hawdd Bod yn Ddwyieithog', ar gael i'w lawrlwytho o  www.nosonallan.org.uk neu cysylltwch â:

Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru, Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Noson Allan
Ffôn: 029 2044 1340
E-bost: ymholiadau@nosonallan.org.uk

Nôl i’r Brig