Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth a Chelfyddydau Pobl Ifanc Torfaen

Mae llawer o bobl ifanc yn Nhorfaen yn rhagori yn y celfyddydau ac yn perfformio ar bob lefel, ac mae llawer ohonynt yn dangos brwdfrydedd ac ymroddiad, yn ogystal â llawer o ddoniau rhagorol.

Sefydlwyd y gronfa hon i hyrwyddo addysg pobl ifanc mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau, naill ai trwy gyrsiau arbenigol, preswylfeydd creadigol, cyrsiau untro a / neu hyfforddiant pwrpasol a gyflawnir trwy broses clyweliad neu gyfweliad.

Yr amcan pennaf yw hyrwyddo lles cymdeithasol pobl ifanc Torfaen a chefnogi eu dyheadau yn y dyfodol.

Derbynnir ceisiadau drwy’r flwyddyn ond unwaith y flwyddyn ar ddiwedd mis Mai yn unig fydd y ceisiadau’n cael eu hasesu Un grant y flwyddyn yn unig y gellir ei ganiatáu i bob ymgeisydd.

Meini prawf

Gofynion:

  • Fod yn 25 oed neu'n iau adeg cyflwyno'r cais
  • Byw yn Nhorfaen
  • Datgan unrhyw gymorth ariannol y mae wedi'i gael yn barod
  • Dangos ffyddlondeb, ymroddiad ac ymrwymiad i gerddoriaeth neu'r celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, celf a dylunio - gan gynnwys ers pryd y bu'n canlyn y diddordeb hwnnw
  • Bod wedi cyrraedd safon cyflawniad cydnabyddedig
  • Datgan rheswm dros y cais - rhaid bod yn benodol
  • Cael cefnogaeth gan ganolwr proffesiynol priodol ar gyfer y cais
  • Cworwm o'r ymddiriedolwyr a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, a bydd ganddynt ryddid o ran dehongli'r meini prawf uchod
  • Ar gyfer cyfleoedd datblygu yn unig y bydd grantiau yn cael eu hystyried hy cyrsiau penodol, ysgolion haf, hyfforddiant pwrpasol ac ati
  • Ni ystyrir grantiau ar gyfer cyfarpar neu wersi parhaus
  • Ni ystyrir grantiau i ariannu cyrsiau addysg uwch / llawn amser parhaus

Gweinyddu'r Ymddiriedolaeth

Er mai'r Ymddiriedolwyr sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar bob cais, caiff pob un ei brosesu gan Weinyddydd y Gronfa Ymddiriedolaeth ac mae modd cysylltu â hi yn:

Gwasanaethau Cymdogaeth - Y Tîm Diwylliant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Tŷ Blaen Torfaen
Ffordd Panteg
Y Dafarn Newydd
Pont-y-pŵl
NP4 0LS

Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i'n gwneud cais i'r gronfa?

Dylech ddarllen y dudalen hon yn ofalus ac ystyried a ydych yn bodloni'r meini prawf. Os ydych chi'n meddwl eich bod yn bodloni'r meini prawf, yna dylech fynd ati a gwneud cais am grant gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth a Chelfyddydau Pobl Ifanc Torfaen. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich cymhwysedd gallwch gysylltu â Gweinyddwr y Gronfa Ymddiriedolaeth fydd yn hapus i'ch helpu.

Sut bydd y gronfa'r dyrannu ei harian?

Yr ymddiriedolwyr fydd yn penderfynu ar y grantiau a ddosberthir.

Beth fydd yn digwydd ar ôl iddynt dderbyn fy nghais?

Bydd y Gweinyddwr sicrhau bod eich cais yn bodloni'r meini prawf. Os ydyw, bydd y cais yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf yr Ymddiriedolwyr.

Pwy yw'r Ymddiriedolwyr?

Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Chadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr
Y Cynghorydd Colette Thomas, Sefydlydd yr Ymddiriedolaeth
Y Parchedig Harald Thomas
Canon Brian Pippen
Mr Martyn Redwood
Mr Simon Linton, Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent

Noddwr
Mr Nick Thomas-Symonds AS

Gweinyddol
Verity Ryan, Rheolwr Datblygu Marchnata, Datblygu’r Celfyddydau 

Pryd fyddaf yn clywed am fy nghais?

Os ydych am i ni gydnabod eich cais, bydd angen i chi gysylltu â'r Gweinyddwr yn uniongyrchol i gadarnhau bod y ffurflen wedi cael ei derbyn. Unwaith y cynhelir cyfarfod adolygu ar ddechrau mis Mehefin, byddwch yn cael gwybod am benderfyniad yr ymddiriedolwyr a'r swm y byddant yn barod i'w ddyfarnu i chi.

Pryd fyddaf yn gwybod a fuodd fy nghais yn llwyddiannus?

Bydd y Gweinyddwr yn ysgrifennu atoch yn ystod yr wythnos yn dilyn y cyfarfod.

Os byddaf yn llwyddiannus pryd fyddaf yn derbyn y grant?

Bydd Gweinyddwr yr Ymddiriedolaeth yn anfon siec am swm y grant i chi o fewn 28 diwrnod. Yn ystod y tri mis canlynol bydd angen i chi ddarparu copïau o'r holl dderbyniadau ar gyfer y nwyddau neu wasanaethau a brynwyd gydag eich grant a dychwelyd ffurflen datganiad a gwblhawyd at Weinyddwr yr Ymddiriedolaeth. Rhaid i'r Gweinyddwr gytuno ar drefniadau amgen i'r rheol hon.

Os na fyddaf yn llwyddiannus a fedraf apelio?

Penderfyniad yr Ymddiriedolaeth yw’r penderfyniad terfynol.

A fyddaf yn derbyn unrhyw gyhoeddusrwydd?

Byddwch, os ydych yn dymuno. Gall hyn fod yn y wasg, papur bro lleol neu mewn digwyddiad codi arian dan ofal y maer. 

A oes unrhyw fusnesau lleol yn cefnogi'r gronfa? 

Cysylltwyd â llawer o fusnesau lleol yn ogystal â Chynghorau Cymuned a Chynghorwyr am gymorth ariannol.

Sut mae'r arian yn cael ei ddyrannu?

Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf yn erbyn meini prawf penodol. Os bydd y cais yn bodloni'r meini prawf, gyda'r Ymddiriedolwyr y bydd y penderfyniad terfynol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Diwylliannol

Ffôn: 01633 628968

Nôl i’r Brig