Cwmni Dawns Ieuenctid Advance

Advance Youth Dance Company LogoCyfle hyfforddi newydd yw Cwmni Dawns Ieuenctid Advance sydd yn rhoi cyfleoedd i ddawnswyr newydd (14 - 19 oed) o Dorfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr, RCT a Bro Morgannwg.

Mae aDvance:

  • yn rhaglen blwyddyn o hyd sydd yn cynnig diwrnodau hyfforddi misol
  • yn agored i ddawnswyr ifanc sydd eisoes yn cymryd rhan actif mewn dawns o unrhyw fath ac arddull (ee ballet, cyfoes, modern, trefol)
  • yn agored i ddawnswyr ifanc, 14 – 19 oed
  • yn canolbwyntio ar dechnegau a sgiliau dawnsio cyfoes
  • yn dewis hyd at 20 o ddawnswyr •rhaid ei wneud ochr yn ochr â gweithgarwch rheolaidd yr aelodau a’u cysylltiad â dosbarthiadau dawns a grwpiau ieuenctid lleol
  • wedi bodoli ers Mai 2013

Y gobaith yw, gyda manteision y cyfle hyfforddi ychwanegol hwn, gall dawnswyr ifanc gael mynediad yn y dyfodol i raglen datblygu NYDW a/neu Gwmni NYDW a ‘Perform for Wales’.

Beth yw techneg dawnsio gyfoes? A beth arall sydd ynghlwm?

Cyfres o ymarferion dawns sydd yn atgyfnerthu a datblygu’r corff i ddawnsio - mae’n canolbwyntio ar alinio, ymwybyddiaeth o’r corff, anadlu, rheoli, osgo - a’r cyfan oll gyda’r nod o wella a datblygu dawns mewn perfformiad. Mae’n sail sy’n galluogi’r dawnsiwr i ddatblygu’r sgiliau, cryfderau a’r arfau i ddawnsio a pherfformio.

I gael manylion am y rownd nesaf o glyweliadau cysylltwch ar 029 20265 060 neu e-bostiwch nyaw@nyaw.co.uk (gydag ‘aDvance’ yn y llinell testun), gydag eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost a dyddiad geni.

Mae’r rhaglen hon yn bartneriaeth rhwng saith UA a Dawns Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYDW), gyda nawdd gan awdurdodau sydd yn cymryd rhan a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Datblygu'r Celfyddydau

Ffôn: 01633 628968

E-bost: arts.development@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig