Cronfa'r Degwm
Mae Cronfa’r Degwm yn Nhorfaen yn darparu grantiau i helpu tuag at ddatblygu:
- addysg a chrefydd
- lleddfu tlodi
- celf, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
- dibenion eraill sydd o fudd i’r gymuned
Gellir dyfarnu grantiau ar gyfer gwariant cyfalaf neu wariant refeniw. Dyfernir y cyllid yn ôl disgresiwn y Cabinet.
Pwy all wneud cais?
Trigolion yn Nhorfaen ac unrhyw fudiad sy’n gweithredu yn y sir.
Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?
Ystyrir ceisiadau ar 30 Ebrill, 31 Gorffennaf, 31 Hydref a 31 Ionawr.
Gallwch lawr lwytho copi o’r ffurflen gais a chanllawiau yma.
Sylwer y bydd grwpiau/mudiadau yn cael eu hystyried yn ôl copi o’r datganiadau ariannol a hynny’n unig.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/03/2023
Nôl i’r Brig