Data Perfformiad Ysgol

Sylweddolwn fod mynediad i wybodaeth am berfformiad ysgol yn bwysig i rieni  a gofalwyr sydd angen gwneud dewisiadau gwybodus wrth fynd ati i ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn. Mae angen i’r wybodaeth fod yn gywir, diweddar a hawdd ei chyrchu. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan o’r enw Fy Ysgol Leol .

Gwefan a ddyluniwyd gan Lywodraeth Cymru yw Fy Ysgol Leol a’r Llywodraeth sydd yn gyfrifol amdani. Mae’n rhoi cyfle i rieni a phawb arall sydd  â diddordeb yn eu hysgol leol i gael hyd i ddata’r ysgol.

Mae’r safle yn cynnwys cyfoeth o ddata gan gynnwys canlyniadau ysgol, nifer y disgyblion, presenoldeb a gwybodaeth am staff a chyllid. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd glir a syml.

Mae Fy Ysgol Leol yn caniatáu mynediad ar lein i ddata manwl am berfformiad ysgol ac i helpu rhieni ddeall mwy am eu hysgol leol.

Mae rhai o’r Nodweddion Allweddol yn cynnwys:

  • mynediad dwyieithog i wybodaeth am ysgolion unigol
  • chwiliad fesul cod post sy’n dangos yr ysgolion yn yr ardal leol
  • crynodeb o bob ysgol - braslun data yn dangos ysgol ar yr olwg gyntaf
  • cyswllt uniongyrchol i adroddiad diweddaraf gan Estyn ar gyfer yr ysgol – mae’r cyswllt wedi ei leoli ar ben uchaf y dudalen ysgol ar yr ochr dde
  • opsiwn i weld gwybodaeth ar ffurf tabl neu siartsiartiau hyblyg – drwy glicio’r eitemau yn y siart mae’r defnyddiwr yn medru addasu golwg y siart
  • mynediad i ddewisiadau cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 4 (TGAU)
  • rhestr termau – yn y rhestr termau fe wellwch eglurhad o gyfnodau allweddol addysg yng Nghymru
  • cwestiynau cyffredin

Hyderwn y bydd y safle yn ddefnyddiol i chi felly mynnwch olwg arno i weld beth yw eich barn chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig