Arolygiadau Ysgol

Mae Estyn yn arolygu ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a gynhelir dan adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996.

Caiff pob ysgol ei harolygu o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Mae'r arolygiadau hyn yn edrych ar bob agwedd ar ddarpariaeth ysgol, heblaw am addysg enwadol a chynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgolion gwirfoddol hynny y manylir arnynt yn adran 23 y Ddeddf. Pwrpas arolygiad yw adrodd ar:

  • y safonau addysgol sy'n cael eu cyflawni yn yr ysgol;
  • ansawdd yr addysg sy'n cael ei darparu gan yr ysgol;
  • ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, gan gynnwys a yw'r adnoddau ariannol sydd ar gael i'r ysgol yn cael eu rheoli'n effeithlon ai peidio; a
  • datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yr ysgol.

Os oes angen copi o adroddiad arolygu ysgol arnoch, mae'r rhain ar gael yn uniongyrchol gan yr ysgolion unigol neu ar gael i'w lawrlwytho o'r Cyfeiriadur Ysgolion ar y wefan. Dod o hyd i'ch ysgol leol yma.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ysgol ar gael ar wefan Estyn.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Gwella ac Effeithiolrwydd

Ffôn: 01633 647360

Nôl i’r Brig