Y Gwasanaeth Ieuenctid : pryderon a chwynion

Os oes gennych bryder am unrhyw brofiad a gawsoch gyda'r gwasanaeth ieuenctid, yna rhowch wybod i ni. Rydym am wneud ein gorau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiad rhagorol sy'n ddiogel ac yn ddymunol, felly gallai eich sylwadau ein helpu i wella. Rydym yn gwerthfawrogi y gall camddealltwriaeth beri annifyrrwch, felly rydym am wneud ein gorau i fynd i'r afael â hyn. Rydyn ni'n cydnabod na fyddwn ni bob amser yn gallu newid pethau, a gobeithiwn y byddwch chithau yn cydnabod hyn, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pam. Lle gallwn newid a gwella, byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud hynny a rhoi gwybod i chi sut mae eich mewnbwn wedi helpu.

Sut i gysylltu

Yn y lle cyntaf, a fyddech cystal â siarad â’r gweithiwr ieuenctid sy’n gyfrifol am rhedeg y ddarpariaeth neu’r weithgaredd sy’n peri pryder i chi.

Byddwn yn

  • Gwrando arnoch a deall eich pryderon
  • Siarad â chi mewn ffordd broffesiynol a chwrtais
  • Ymateb i unrhyw beth y gallwn, i helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hyn
  • Pan na fedrwn, byddwn yn dweud wrthych pwy yn y sefydliad yr ydym yn bwriadu siarad ag ef neu hi, a dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Byddem yn gwerthfawrogi petai chi’n

  • Siarad â ni yn gwrtais ac ar adeg pan nad ydym wrthi’n helpu pobl ifanc
  • Mynegi eich pryderon yn glir a’r hyn yr hoffech i ddigwydd i ddatrys y mater
  • Rhoi manylion cyswllt diweddar i ni rhag ofn y bydd angen i ni ddod yn ôl atoch

Cyfeirio’r mater i lefel arall

Os ar ôl dilyn yr uchod, byddech yn hoffi cyfeirio’r mater ymhellach yna cysylltwch â rheolwr y gwasanaeth David Williams ar 07980682276 / david.williams@torfaen.gov.uk a byddwn yn ymdrechu i drafod y mater yn yr un ffordd â amlinellir uchod.

Cyfeirio’r mater yn uwch eto

Os ydych am gyfeirio’r mater ymhellach eto ar ôl siarad â rheolwr y gwasanaeth, yna gallwch adrodd eich pryderon neu gwynion yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen

Ffôn: 01633 647647

Ebost: youth2@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig