Pum piler gwaith ieuenctid
Mae gan waith ieuenctid sylfaen gwerthoedd sy’n seiliedig ar barch tuag at bobl ifanc, cynhwysiant a chyfleoedd cyfartal. Mae’r egwyddorion allweddol sy’n sail i gyflenwad gwaith ieuenctid i’w gweld ym Mhum Piler Gwaith Ieuenctid yng Nghymru - addysgol, mynegiannol, grymusol, cynhwysol a chyfranogol
Mae gweithwyr ieuenctid yn datblygu perthnasau gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd: mewn clybiau ieuenctid, mewn parciau a mannau awyr agored, mewn ysgolion a cholegau, i bob pwrpas, ble bynnag mae pob ifanc i’w cael ac ar adeg y maen nhw am ymgysylltu.
Gan weithio ochr yn ochr â phobl ifanc, mae gweithwyr ieuenctid yn creu mannau diogel sydd wedi eu cynllunio i ymateb i’w hanghenion. Gyda’i gilydd, maen nhw’n darparu ac yn creu cyfleoedd i gynorthwyo pobl ifanc ar eu taith at fod yn oedolion ac yn annibynnol trwy’r Pum Piler.
Pum Piler Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yw:
- Mae Addysgol yn ymwneud â dysgu mewn ffordd sy’n gweddu i chi, yn y man mae’n gweddu i chi ac ar y pryd mae’n gweddu i chi!
- Mae Mynegiannol yn ymwneud â darganfod bod gennym ni i gyd dalentau, cryfderau a nodweddion gwahanol ac mae’n hwyl darganfod beth yw’r rhain.
- Mae Grymusol yn ymwneud ag adeiladu ar ein cryfderau, rhoi tro ar bethau newydd a bod yn hyderus ynom ni ein hunain.
- Mae Cynhwysol yn golygu gwneud yr hyn allwn ni i sicrhau bod llwybrau yn agored a rhwystrau’n cael eu dymchwel fel y gallwn ni gymryd rhan
- Cyfranogol – gyda hyder, gwybodaeth a chefnogaeth, gallwn wneud cyfraniad i faterion sy’n effeithio arnom ni a’n cymuned.
Am ragor o wybodaeth am egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid cliciwch yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/05/2022
Nôl i’r Brig