Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae Cynllun Pensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) yn gynllun pensiwn galwedigaethol priodol ar gyfer gweithwyr awdurdodau lleol a rhai cyrff cysylltiedig eraill yn y sector cyhoeddus yn ardal Gwent Fwyaf. Nid yw'n berthnasol i swyddogion yr heddlu a'r frigâd dân, nac i athrawon a darlithwyr, oherwydd bod ganddynt hwy gynlluniau ar wahân.

Telir am y cynllun trwy gyfraniadau a dalwyd gan weithwyr a'u cyflogwyr. Mae'r buddion pensiwn a dalwn o'r Gronfa yn cael eu pennu gan ddeddfwriaeth yn bennaf ac nid gan yr awdurdodau lleol. Cynllun buddion diffiniedig yw'r Gronfa a ddiogelir gan y gyfraith. Mae'r buddion yn gysylltiedig â chyflog terfynol a chyfnod gwasanaeth.

Mae cyhoeddiadau allweddol a gwybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Bensiwn i gael ar wefan Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen).

Diwygiwyd Diwethaf: 25/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Yr Is-adran Bensiynau
Ffôn: 01495 766266
E-bost: pensions@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig