Y Tîm Diogelwch Cymunedol

Mae awdurdodau lleol yn un o bum sefydliad sydd â dyletswydd statudol i fynd i'r afael â throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais difrifol a chamddefnyddio sylweddau yn Nhorfaen.

Mae Tîm Diogelwch Cymunedol y cyngor yn rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Torfaen ochr yn ochr â'r heddlu, iechyd, y gwasanaeth prawf a'r gwasanaeth tân. Mae'r bartneriaeth yn cydlynu asiantaethau lleol i fynd i'r afael â materion fel troseddau casineb, cefnogi dioddefwyr, a rhoi cyngor ataliol.

Fel rhan o hyn, mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i ganfod pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i drafferthion, fel y gellir cynnig dewisiadau eraill a chefnogaeth gadarnhaol iddynt. 

Hwb Diogelwch Cymunedol

Mae'r tîm yn cynnal cyfarfodydd bob tair wythnos gyda thimau eraill y cyngor. Maent yn cynnwys y gwasanaeth ieuenctid, yr heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a Chymorth i Ddioddefwyr i ganfod unigolion neu ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem. Maent hefyd yn trafod atebion, fel ymyriadau cadarnhaol neu weithio'n agosach gyda phartneriaid yn yr ardal leol.

Dyfodol Cadarnhaol

Mae'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol yn defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ennyn diddordeb pobl ifanc rhwng naw a phedwar ar bymtheg mewn cymunedau sydd â lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amddifadedd.  

Ei nod yw cynnig dewisiadau eraill, cadarnhaol yn lle camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gefnogi pobl ifanc i ddatblygu’n addysgol, personol a chymdeithasol trwy bartneriaethau â sefydliadau fel Heddlu Gwent a Chwaraeon Cymru.   

Mae plant a phobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at y rhaglen gan y tîm diogelwch cymunedol.  

Rhaglenni atal

Bob blwyddyn, mae'r tîm yn cael cyllid ar gyfer rhaglenni penodol, fel Uplift, sy'n cynnig dosbarthiadau codi pwysau i ddisgyblion ysgol uwchradd yng nghampfa SSC, ym Mhont-y-pŵl, ac elusen Streetdoctors, sy'n rhedeg Rhaglen Lleihau Trais mewn ysgolion. Mae'r tîm hefyd yn gweithio gyda Mentroar, sy'n mentora un i un.

Sut i roi gwybod am bryderon am berson ifanc

Os oes gennych bryderon am berson ifanc sydd mewn perygl o droi at droseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais difrifol a chamddefnyddio sylweddau, siaradwch â'u hysgol.

Bydd yr ysgol yn gweithio gyda'r Tîm Diogelwch Cymunedol a'r heddlu i ddod o hyd i atebion. 

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gategoreiddio fel ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy'n debygol o achosi, niwed, dychryn neu drallod i berson. Gall hefyd gynnwys ymddygiad a all achosi niwsans neu annifyrrwch i bobl yn eu cartrefi. 

Nid yw gweithgareddau sy'n cynnwys plant yn chwarae y tu allan, mân anghydfodau ymysg cymdogion a cheir wedi'u parcio'n wael yn cael eu hystyried yn fater o ymddygiad gwrthgymdeithasol.   

Gallwch roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Gwent drwy ffonio 101, neu ar-lein ar www.gwent.police.uk.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn ystod oriau swyddfa ar communitysafetyteam@torfaen.gov.uk neu 01495 762200. 

Neu Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i crimestoppers-uk.org.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/12/2025 Nôl i’r Brig