Atal terfysgaeth

Mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol i atal terfysgaeth drwy Strategaeth Gwrthderfysgaeth y DU, neu CONTEST. 

Mae gan strategaeth CONTEST bedair elfen allweddol: 

  • Mynd ar drywydd – i atal ymosodiadau terfysgol
  • Atal – atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi eithafiaeth dreisgar
  • Diogelu – cryfhau ein hamddiffyniad rhag ymosodiadau terfysgol
  • Paratoi – lliniaru effeithiau lle nad oes modd atal ymosodiad

Os oes gennych bryderon am fygythiad terfysgol uniongyrchol, ffoniwch 999. 

Os ydych wedi gweld neu glywed rhywbeth a allai awgrymu bod y DU dan fygythiad terfysgol, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321 neu ewch i Wefan Plismona Gwrthderfysgaeth.

Gallwch hefyd gyfeirio pryderon yn ddi-enw ar-lein drwy lenwi Ffurflen Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth Cymru (Prevent)

Prevent  

Mae'r rhaglen Prevent yn fenter aml-asiantaeth sy’n anelu i amddiffyn pobl agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio gan eithafwyr. 

Os oes gennych bryderon am rywun sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio, gallwch ffonio llinell gyngor genedlaethol Prevent yr heddlu, ar 0800 011 3764, yn gyfrinachol, i rannu eich pryderon gyda'n swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. 

Neu gallwch gysylltu â'r Tîm Diogelwch Cymunedol ar communitysafetyteam@torfaen.gov.uk neu 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/12/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfathrebu, Ymgysylltu ac Argyfyngau Sifil

Ffôn: 01495 742151

Nôl i’r Brig