Her Aur Torfaen a Grantiau Cymorth Bwyd Brys

A oes gan eich sefydliad syniad newydd i hybu mynediad at fwyd iach, fforddiadwy, cynaliadwy neu syniad i leihau gwastraff bwyd?

Mae Torfaen, sy’n Lle Bwyd Cynaliadwy â statws Arian, yn gwahodd grwpiau cymunedol i wneud cais am ddau gyfle ariannu i gefnogi mentrau bwyd lleol:

Grantiau Bwyd Cymunedol yr Her Aur

Cronfa A: £500–£5,000 helpu grwpiau lleol i dreialu neu ddatblygu prosiectau sy'n gwella mynediad at fwyd cynaliadwy ac addysg bwyd

Cronfa B: £100–£2,500 ar gyfer mentrau bwyd sy'n cefnogi preswylwyr â nodweddion gwarchodedig yn benodol

Gall grwpiau wneud cais i Gronfa A, Cronfa B, neu'r ddau.

Pwy all wneud cais?

  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Grwpiau Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Elusennau
  • Grwpiau Gwirfoddol
  • Y Sector Cyhoeddus a Busnesau (yn cynnwys lleoliadau addysg) sy’n gweithio gyda chymunedau

Meini prawf

Rhaid i brosiectau gyfrannu at un neu fwy o'r canlynol:

  • Mudiad Bwyd Da - ehangu ymwybyddiaeth y cyhoedd a dinasyddiaeth bwyd lleol
  • Bwyd Iach i Bawb – sicrhau mynediad urddasol a chyfartal at fwyd maethlon
  • Economi Fwyd Gynaliadwy – cefnogi busnesau bwyd lleol
  • Arlwyo a Chaffael – gwella cadwyni cyflenwi bwyd lleol
  • Bwyd i'r Blaned – lleihau gwastraff bwyd a chefnogi systemau bwyd sy'n ystyriol o’r hinsawdd

Sut mae'n gweithio?

Rhaid i ymgeiswyr ddangos budd cymunedol pendant, canlyniadau cynaliadwy, a dangos tystiolaeth o'r holl wariant.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27 Gorffennaf 2026
Rhaid cwblhau prosiectau erbyn: 16 Chwefror 2026

Grant Cymorth Bwyd Brys

Mae'r grant hwn yn cefnogi mentrau bwyd cymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd a chynyddu mynediad at fwyd maethlon.

Cyllid Cyfalaf: Hyd at £1,000 ar gyfer nwyddau gwyn, offer tyfu neu ddosbarthu

Cyllid Refeniw: Hyd at £1,000 i brynu bwyd a nwyddau hanfodol o ansawdd da
Gall sefydliadau wneud cais am un neu'r ddau.

Pwy all wneud cais?

  • Sefydliadau'r trydydd sector yn unig, gan gynnwys:
  • Elusennau
  • Cwmnïau Buddiant Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol

Nid yw busnesau yn gymwys

Amserlen ar gyfer Ceisiadau

Agored o 7 Gorffennaf – 10 Tachwedd2025, gyda pedair ffenestr ymgeisio:

  • Ffenestr 2: 07 Gorffennaf – 11 Awst (Hysbysu erbyn 15 Awst)
  • Ffenestr 3: 15 Medi – 29 Medi (Hysbysu erbyn 03 Hydref)
  • Ffenestr 4: 27 Hydref – 10 Tachwedd (Hysbysu erbyn 14 Tachwedd)

Gall ymgeiswyr wneud cais mewn mwy nag un ffenestr, ond rhaid cwblhau unrhyw grant a ddyfarnwyd yn flaenorol a’i gau cyn ailymgeisio.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am becyn ymgeisio, anfonwch e-bost at: Food4Growth@torfaen.gov.uk

 

Ariennir gan Lywodraeth Cymru a gweinyddir gan Bartneriaeth Bwyd Torfaen fel rhan o Dîm Gwydnwch Bwyd Torfaen.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

 

Nôl i’r Brig