Grant Datblygu Busnes Bwyd
Nod y grantiau hyn yw cefnogi busnesau bwyd lleol i amrywio’u cynnyrch, prosiectau gwerth ychwanegol, gwella eu gweithrediadau, archwilio technegau cynhyrchu newydd, a chyfrannu at ddatblygu economi fwyd gynaliadwy.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyfle gwych i fusnesau bwyd sefydledig wneud cais am grantiau hyd at £15,000.
Pwy all wneud cais?
- Busnesau Bwyd Sefydledig wedi'u lleoli yn Nhorfaen sy’n masnachu ers o leiaf 6 mis.
- Busnesau bwyd sydd â sgôr Hylendid Bwyd o 4 neu uwch
Meini prawf
Bydd angen i fusnesau ddangos sut mae eu prosiect yn cyfrannu at un neu fwy o'r Blaenoriaethau Bwyd Da Torfaen canlynol.
- Ein hiechyd
- Ein Cymuned
- Ein Swyddi
- Ein Haddysg
- Ein Dyfodol
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gyflwyno Cynllun Busnes perthnasol i gefnogi eu cais.
Er bod y grant hwn yn agored i bob busnes bwyd, nid yw’n cefnogi prosiectau sydd wedi'u hanelu at gynyddu cynhyrchu bwyd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr.
Gweithgareddau Cymwys
Gallwn gefnogi ystod o brosiectau gan gynnwys:
- Adeiladau newydd/gwell
- Hyfforddiant a Datblygu
- Offer, gan gynnwys TG
- Marchnata
- Nwyddau Gwyn
- Datblygu Cynnyrch
Gellir ystyried eitemau eraill
Costau'r Prosiect
Cyllid Cyfalaf a Refeniw, uchafswm o £15,000.
Mae pob grant yn gofyn am o leiaf 20% o arian cyfatebol gan yr ymgeisydd.
Sut mae'n gweithio?
Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais i fod yn rhan o'r cynllun hwn ddod â syniad arloesol sy'n cefnogi datblygiad eich busnes bwyd ac yn dangos bod manteision clir a chanlyniadau cynaliadwy i'r prosiect.
Byddwch yn gyfrifol am reoli a rhedeg y prosiect. Bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o'r holl wariant ar y prosiect.
Amserlenni Ymgeisio
Dylid cwblhau ceisiadau a'u cyflwyno ynghyd â Chynllun Busnes ategol erbyn 5pm ddydd Llun 9 Mehefin 2025. Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan banel allanol. Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Ionawr 2026.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 648735.
Diwygiwyd Diwethaf: 06/05/2025
Nôl i’r Brig