Datgarboneiddio busnesau a sefydliadau trydydd sector

Mae tua thraean o allyriadau carbon y DU yn cael eu cynhyrchu gan fusnesau.

Cynlluniau lleihau carbon

Gall ein tîm ynni helpu eich busnes neu sefydliad y trydydd sector i leihau eu hôl troed carbon ac arbed arian. 

Byddwn yn trefnu i ymweld â'ch safle i archwilio faint o ynni yr ydych chi’n ei ddefnyddio a  gweithio gyda chi i baratoi cynllun lleihau carbon. Dylai cynllun lleihau carbon gael ei ddiweddaru’n flynyddol, i adlewyrchu'r cynnydd rydych wedi'i wneud, ac mae'n rhywbeth y mae cyflenwyr yn gofyn fwyfwy amdano.  

Gall eich cynllun gynnwys cynnig i newid i ddewisiadau eraill sy’n arbed ynni fel goleuadau LED neu nodi grantiau ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy, fel paneli solar. 

Rhwng 2023 a 2025, fe wnaethom helpu bron i 100 o fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector i gwblhau cynlluniau lleihau carbon a sicrhau cyllid grant ar gyfer mesurau arbed ynni.

I drefnu cynllun lleihau carbon, cysylltwch â energy.management@torfaen.gov.uk

Seilwaith cerbydau trydan

I gael cyngor ar gerbydau trydan a seilwaith gwefru ar gyfer eich busnes, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk 

Casgliadau ailgylchu a gwastraff y sector masnach

Rhaid i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector wahanu deunyddiau ailgylchu cyn y gellir eu casglu. Mae ailgylchu mwy yn cyfrannu at leihau allyriadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig