Ymateb i lifogydd

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud 

Pan fydd rhybudd tywydd melyn yn cael ei gyhoeddi, bydd criwiau'n archwilio'r holl gwlferi uchel eu blaenoriaeth ac mae staff wrth gefn ar gael i ymateb i argyfyngau. 

Pan fydd rhybudd tywydd ambr yn cael ei gyhoeddi, mae criwiau yn archwilio cwlferi uchel a chanolig eu blaenoriaeth. Mae criwiau a thimau ymateb brys wrth gefn yn cael eu trefnu. Os yw'r rhybudd tywydd ar gyfer gwyntoedd cryfion, mae timau sy'n gallu delio â choed a changhennau sydd wedi cwympo ar gael wrth gefn.

Os bydd rhybudd tywydd coch, mae'r holl gwlferi a cheunentydd ar y ffyrdd yn cael eu harchwilio, ac mae amrywiaeth o dimau gan gynnwys y tîm priffyrdd a Strydlun ar gael wrth gefn.  

Mae gennym gyflenwad cyfyngedig o fagiau tywod i amddiffyn prif ffyrdd yn unig. 

Rydym yn gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol i ganfod preswylwyr sy’n agored i niwed, fel y rhai sy'n defnyddio peiriannau dialysis. 

Os bydd angen i chi adael eich eiddo, bydd y gwasanaethau brys yn rhoi gwybod a chewch eich symud i le diogel.  

Yr hyn na allwn ei wneud

Rhoi amddiffyniad rhag llifogydd ar lefel eiddo, fel gatiau llifogydd neu fagiau tywod. 

Delio â llifogydd carthffosiaeth – cysylltwch â Dŵr Cymru Welsh Water

Ni allwn weithio ar dir preifat heb ganiatâd perchennog y tir.   

Yr hyn y gallwch chi ei wneud fel deiliad y cartref

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. 

Ymatebwch i rybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd a rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Gwnewch bopeth i atal llifogydd yn cynnwys bagiau tywod a gatiau llifogydd os ydynt wedi’u gosod.

Ewch i wefan y cyngor neu dilynwch Gyngor Torfaen ar Facebook, Instagram, X neu Whatsapp am ddiweddariadau byw os bydd llifogydd.

Symudwch eitemau gwerthfawr i fyny'r grisiau os yn bosibl. 

Peidiwch â cheisio cerdded, gyrru na nofio trwy ddŵr llifogydd.   

I gael mwy o gyngor, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.  

Diwygiwyd Diwethaf: 06/08/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Tel: 01495 762200

Nôl i’r Brig