Rhwydweithiau llifogydd cymunedol
Mae rhwydwaith llifogydd cymunedol yn grŵp gwirfoddol o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwytnwch eu cymuned leol i lifogydd.
Rydym yn treialu rhwydwaith llifogydd cymunedol gyda Chyngor Cymuned Ponthir ac yn gobeithio gweithio gyda grwpiau cymunedol eraill yn y dyfodol.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â sab@torfaen.gov.uk
Beth all rhwydweithiau llifogydd cymunedol ei wneud i leihau'r risg o lifogydd, a chefnogi trigolion a busnesau os bydd llifogydd?
- Addysgu trigolion a busnesau am y perygl o lifogydd lleol a sut i'w lliniaru
- Datblygu cynllun llifogydd lleol i gydlynu ymatebion
- Cydweithio gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys y cyngor, y gwasanaethau brys a Dŵr Cymru Welsh Water
- Cefnogi cartrefi a busnesau os bydd llifogydd, yn enwedig trigolion bregus e.e. dosbarthu bagiau tywod, helpu pobl i ddianc o’u heiddo, rhoi cymorth ar ôl llifogydd
Diwygiwyd Diwethaf: 06/08/2025
Nôl i’r Brig