Cyfleoedd i Hysbysebu yn Nhorfaen

Ar gyfartaledd mae tua 20,000 o geir yn gyrru heibio cylchfannau prysuraf gogledd a de Torfaen bob dydd.
Mae dros 93,000 o bobl yn byw yn Nhorfaen; mae'n lle bywiog, amrywiol gyda chysylltiadau ffordd a rheilffordd ragorol.
Pum milltir yn unig ydyw o'r M4 sy'n ei gwneud yn ardal boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, p'un a ydyn nhw'n dewis cerdded yn ein cefn gwlad syfrdanol neu siopa yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân, un o'r canolfannau siopa dan do mwyaf yng Nghymru, gyda mwy na 170 o siopau a mwy na 3,000 o leoedd parcio.
Mae hysbysebu ar un o gylchfannau Torfaen yn rhoi cyfle i bobl weld neges eich busnes 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae Cyngor yn chwilio am fusnesau a fyddai â diddordeb mewn hysbysebu eu gwasanaethau ledled y fwrdeistref, o gylchfannau'r A4043 ym Mhont-y-pŵl, y rhai ar hyd Cwmbran Drive, i'r rhai ger Canolfan Siopa Cwmbrân a llawer mwy.
Mae rhestr o’r rheini sydd eisoes yn hysbysebu ar gylchfannau ar gael i’w lawr lwytho yma.
Yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd
Mae ein Cynllun Hysbysebu wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda llawer o noddwyr yn dewis parhau i gymryd rhan flwyddyn ar ôl blwyddyn, darllenwch rhai o'u sylwadau isod ar hyn sydd ar gael ar hyn o bryd
“Mae'r cynllun cylchfannau yn syniad rhagorol i helpu i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa eang ac amrywiol, mae'n syml ac mae hefyd yn rhoi hunaniaeth i'ch lleoliad.” Ian Solkin - Gwesty a Sba Best Western Parkway
Yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd
Lleoliadau | Arwyddion | Pris y Flwyddyn |
Junction of Maendy Way and Greenforge Way by Petersons Funeral Home
|
X 4
|
£2,250
|
Junction of Ty Gwyn Way and St Dials Road by Greenmeadow Farm
|
X 4
|
£1,750
|
Grass verge at Fairwater Way bus turning area
|
X 2
|
£1,200
|
Junction of Greenforge Way, Springvale & Woodland Street (Near Springvale Industrial Estate)
|
X 4
|
£2,250
|
Junction of Hollybush Way & Henllys Way
|
X 4
|
£2,000
|
Junction of Chapel Street and Maendy Way (By Pontnewydd Gentlemans Club)
|
X 4
|
£3,000
|
Large Splitter Island at Junction of Cwmbran Drive (A4051) Sainsburys, The Crow
|
X 2 |
£2,750 |
Splitter islands of roundabout 2 (A4051) Parkway
|
X 3 |
£2,000 |
Nid yw’r prisiau a rhestrwyd yn cynnwys TAW.
* Cafwyd y ffigurau'n annibynnol o Adroddiad Blynyddol Teithio yng Ngwent Fwyaf 2009, Capita Symmonds fel y'i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru.
Mae rhestr o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys lluniau ar gael i’w lawr lwytho yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 01/09/2023
Nôl i’r Brig