Hysbysebu ar Gerbydau Ailgylchu a Gwastraff
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen fflyd fawr o gerbydau Casglu Sbwriel ac Ailgylchu sydd ar waith ledled y Fwrdeistref bob dydd, ac yn ymweld â phob stryd yn wythnosol, ac maent yn weladwy iawn ledled llawer o ardaloedd masnachol yn ddyddiol.
Rydym yn byw mewn byd symudol, dyna pam mae hysbysebu ar gerbydau yn un o'r mathau mwyaf effeithiol o hysbysebu ar hyn o bryd felly beth am fanteisio ar bresenoldeb ein cerbydau'n feunyddiol yn eich cymuned a chynyddu ymwybyddiaeth o'ch brand i bob aelod o'r Fwrdeistref trwy osod hysbyseb ar un o'n cerbydau.
Am gyn lleied ag £20 yr wythnos, gall busnesau rhentu lle ar ochrau'r cerbydau y mae miloedd o drigolion, cerddwyr a modurwyr yn eu gweld bob wythnos.
Mae pecynnau’n dechrau o £1000 (+TAW) y flwyddyn.
I gael mwy o wybodaeth ac i gyfleu eich diddordeb cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdogaeth ar 01495 766810 neu e-bostiwch joanna.giatra@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 29/06/2021
Nôl i’r Brig