Digidol yn Gyntaf Strategaeth Cwsmeriaid

Rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau yn rhagorol, yn diwallu anghenion cwsmeriaid ac yn cyfrannu tuag at ein Nodau Llesiant sydd wedi eu nodi yn y Cynllun Sirol. Mae ein Strategaeth ‘Digidol yn Gyntaf’ i Gwsmeriaid yn rhan allweddol o’r uchelgais hwn ac mae’n nodi sut y byddwn yn defnyddio offer Digidol, Data a Thechnoleg i wella profiad y cwsmer a’r ffordd yr ydym yn mynd ati i wneud pethau.

Mae ganddo dri phrif uchelgais:

Uchelgais A - darparu gwasanaethau rhagorol ac effeithlon wedi'u cynllunio ar sail anghenion cwsmeriaid a’i lywio gan yr hyn yr ydym yn ei ddeall am ddata a gwybodaeth fusnes

Uchelgais B - grymuso cwsmeriaid a staff i ffynnu mewn byd sy’n fwyfwy digidol.

Uchelgais C – defnyddio systemau diogel, cadarn a chydgysylltiedig, technoleg ac atebion mewn modd arloesol ac effeithiol i wella profiad y cwsmer a’r hyn a ddeellir am ddata. 

Gallwch ddarllen mwy am yr uchelgeisiau hyn yn llawn isod.

Rhagair yr aelod gweithredol

Mae Cyngor Torfaen yn darparu ystod eang o wasanaethau, o gasglu gwastraff cartref ac ailgylchu o bob tŷ yn y fwrdeistref, cynnal priffyrdd, cynnal etholiadau a chofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau hyd at ddarparu cefnogaeth i’r henoed ac addysgu ein plant.

Mae ein cwsmeriaid yn cysylltu â ni drwy nifer o wahanol sianeli; arlein, dros y ffôn, wyneb yn wyneb a thrwy’r post. Rydym ni’n derbyn dros 140,000 o geisiadau am wasanaethau’r flwyddyn yn rheolaidd dros y ffôn, ar y wefan, yn ein canolfannau gofal cwsmeriaid a thrwy Ap Torfaen.

Mae Pandemig Covid-19 wedi newid y ffordd mae pob un ohonom yn cyrchu gwybodaeth, yn rhyngweithio â’n gilydd ac yn trafod, gyda dulliau ar-lein yn dod yn rhan llawer mwy o’n bywydau o ddydd i ddydd.

Disgwylir i’r cyfeiriad hwn barhau a byddwn ni, ochr yn ochr â'n partneriaid, yn chwarae rhan bwysig wrth rymuso ein cymunedau a’n cwsmeriaid i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol, wrth sicrhau bod y rhai sydd wir angen cymorth trwy sianeli mwy traddodiadol (ffôn ac wyneb yn wyneb) yn gallu cyrchu’r gefnogaeth honno yn gyflym ac yn hawdd, trwy’r cyngor a’i bartneriaid, ac yn ein cymunedau fel y bo’n briodol.

Mae angen i ni hefyd allu bodloni a rhagori ar ddisgwyliadau a gofynion cwsmeriaid sy’n esblygu, yn effeithlon ac yn effeithiol, trwy sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu cynllunio o amgylch anghenion cwsmeriaid a thrwy fanteisio ar gyfleoedd o’n technolegau presennol a newydd/ sy’n dod i’r amlwg i wella profiad y cwsmer, gwella effeithlonrwydd sut rydym ni’n gweithio a mynd i’r afael â’r heriau ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol yr ydym ni’n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.

Mae mabwysiadu Strategaeth Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf yn gyfle cyffrous i alluogi’r Cyngor i ailfeddwl yn radical sut mae’n gweithredu a sut rydym ni’n rhyngweithio â’n preswylwyr, busnesau, ymwelwyr, staff, cyflenwyr a phartneriaid.

Mae gennym ni gyfle enfawr ar gyfer rhaglen drawsnewid eang, wedi’i sbarduno gan ddata a defnyddio technolegau digidol a ffyrdd o weithio i ailgynllunio’r hyn rydym ni’n ei wneud o ran angen, grymuso ein cwsmeriaid a’n cymunedau, a chreu diwylliant o arloesi digidol ar draws y sir.

Mae’r strategaeth hon yn nodi’r dull y byddwn ni’n ei ddefnyddio i gyflawni ein gweledigaeth a gwella canlyniadau ar gyfer ein holl gwsmeriaid.

Y Cynghorydd Peter Jones,
Aelod Gweithredol dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad

Nôl i’r Brig

Diffiniadau

Digidol yn gyntaf

  • Annog y rhai sy’n gallu mynd ar-lein i wneud hynny i gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad ac i godi ceisiadau am wasanaethau drwy wasanaethau sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n hawdd eu defnyddio.
  • Cefnogi’r rhai sydd am fynd ar-lein ond na allant, oherwydd materion sgiliau, hyder neu fynediad, wneud hynny.
  • Cynnal sianeli mwy traddodiadol fel yn bersonol a dros y ffôn ar gyfer y rhai sydd wir angen siarad â rhywun. Gallai hyn fod yn ymwneud â mater mwy cymhleth neu i gefnogi pobl sy’n fwy agored i niwed.
  • Wedi’i gefnogi gan ymagwedd haenog at Wasanaethau Cwsmeriaid (Atodiad A).
  • Bydd yn sicrhau bod y defnydd o Ddigidol, Data a Thechnoleg yn cael ei ymgorffori ym mhob rhan o’n sefydliad i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol.

Digidol

  • Yn fwy na thechnoleg yn unig.
  • Mae’n ffordd o weithio, diwylliant, sy’n rhoi anghenion ein cwsmeriaid wrth wraidd y ffordd rydym ni’n dylunio gwasanaethau.

Cwsmeriaid

  • Unrhyw un sy’n byw yn Nhorfaen a’n cymuned fusnes neu’n ymweld â nhw, a all gael eu cefnogi gan y cyngor, ei bartneriaid a’n cymunedau i gael mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad a/ neu wasanaethau, gan gynnwys staff y cyngor ac Aelodau Etholedig.

Nôl i’r Brig

Pam rydym ni ei angen?

Safbwynt y cwsmer

Gall fod yn waith caled dod o hyd i wybodaeth a chael gafael ar gymorth gan y cyngor, nid yw’n teimlo eu bod yn deall fy anghenion.

Rydw i am wneud pethau ar-lein ond dydw i ddim bob amser yn siŵr sut i wneud hynny, rwy’n tueddu i ffonio neu fynd i un o’u swyddfeydd, a all fod yn rhwystredig pan fydd yn rhaid i chi aros mewn ciw, neu os nad ydyn nhw ar agor. Gall deimlo fy mod i’n cael fy nhrosglwyddo’n ôl o adran i adran heb unrhyw ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd gyda fy mhroblem.

Safbwynt y Cyngor

Mae rhai o’n gwasanaethau yn gydgysylltiedig ond nid yw llawer ohonynt ac mae’n rhaid i ni ail-gyflwyno gwybodaeth a gweithio o bapur a thaenlenni llawer. Rydym ni’n gwybod bod yna offer allan yna a allai ein helpu ond nid ydym bob amser yn siŵr sut i gael mynediad atynt na pha rai y gallwn ni eu defnyddio. Weithiau rydym ni’n prynu datrysiad newydd dim ond i ddarganfod fod rhywbeth tebyg eisoes ar gael.

Safbwynt Gwneuthurwr Polisi

Rydym ni’n casglu cymaint o wybodaeth gan ein cwsmeriaid ond nid yw’n hawdd ei chyrchu na’i defnyddio i ddarparu mewnwelediad ystyrlon a allai yrru ein penderfyniadau. Mae’n cymryd cymaint o amser i gael gafael ar y data fel nad oes gennym amser i’w ddehongli a’i ddefnyddio ar gyfer cynllunio rhagweithiol ac ataliol strategol a gwasanaethau ehangach. Gallem wneud mwy gyda’n partneriaid pe baem yn gallu rhannu data a mewnwelediadau yn haws.

Safbwynt cymunedau

Fel cymuned rydym eisoes yn gweithio gyda’n gilydd i roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd yn eu hardal leol a chysylltu pobl ô gwasanaethau a darparu cefnogaeth hanfodol yn ystod y pandemig pan nad oedd eraill ar gael. Gallwn ddarparu cymorth a gwybodaeth a gwybod pryd y gallai rhywun fanteisio ar fwy o help gan y Cyngor neu bartneriaid eraill ac rydym yn hapus i helpu i gysylltu pobl pe bai gennym y wybodaeth gywir.

Nôl i’r Brig

Trosolwg o'n gweledigaeth a'n huchelgeisiau strategol allweddol

Ein gweledigaeth

Cyngor sydd wedi’i alluogi’n ddigidol ac effeithlon sy’n grymuso ein staff a’n cymunedau ac yn darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid.

Byddwn yn defnyddio Digidol, Data a Thechnoleg i ddod yn gyngor digidol ac effeithlon sy’n cefnogi datblygiad cymunedau wedi’u grymuso sy’n elwa o brofiad rhagorol i gwsmeriaid trwy wasanaethau sydd wedi’u cynllunio o amgylch eu hanghenion ac sydd â’r sgiliau, yr hyder a’r gallu i wella eu lles eu hunain a chael cymorth cydgysylltiedig gan y cyngor, ein partneriaid a’n cymunedau.

Ein huchelgeisiau strategol

  • Gwasanaethau rhagorol ac effeithlon wedi’u cynllunio o amgylch anghenion ein cwsmeriaid ac wedi’u llywio gan fewnwelediad data a deallusrwydd busnes
  • Bydd Cwsmeriaid a Staff yn cael eu grymuso i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol
  • Defnydd arloesol ac effeithiol o systemau, technoleg ac atebion diogel, cadarn a chydgysylltiedig sy’n gwella profiad y cwsmer a’n mynediad at fewnwelediad data

Bydd tri uchelgais strategol yn darparu’r sylfaen i gyflawni’r strategaeth hon dros y tair blynedd nesaf ac yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau rhagorol ac effeithlon sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.

Ar eu pennau eu hunain byddant yn sicrhau gwelliannau i’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig i’n cymunedau a’n cwsmeriaid. Fodd bynnag, pan fyddant yn cael eu darparu ochr yn ochr, byddant yn cefnogi trawsnewid profiad y cwsmer yn ehangach, yn gwella ein heffeithlonrwydd ac yn cefnogi ein cymunedau i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i ffynnu.

Nôl i’r Brig

Uchelgais A: Gwasanaethau rhagorol ac effeithlon wedi'u cynllunio o amgylch anghenion ein cwsmeriaid ac wedi'u llywio gan fewnwelediad data a deallusrwydd busnes

Ble rydyn ni nawr

  • Yn ystod 2019/2020, codwyd 54.72% o geisiadau am wasanaeth trwy ein system CRM Gwasanaethau Cwsmeriaid gan gwsmeriaid ar-lein.
  • Yn ystod y pandemig (2020/2021 - 2021/2022) codwyd 84% o geisiadau gwasanaeth yn ein system CRM ar gyfartaledd gan gwsmeriaid ar-lein.
  • Codwyd tua 75% o’r ceisiadau am wasanaeth a gyflwynwyd drwy Ofal Cwsmer gan gwsmeriaid ar-lein yn 2022/23.
  • Mae gennym 469 o rifau ffôn unigryw a 276 cyfeiriad e-bost unigryw wedi’u cyhoeddi ar www.torfaen.gov.uk - mae hyn yn golygu bod nifer sylweddol o lwybrau mynediad i mewn i’r cyngor a mewnwelediad cyfyngedig i dueddiadau sianeli cyfathrebu ehangach.
  • Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2022 cyrchwyd ein gwefan 1.1 miliwn o weithiau, gan arwain at edrych ar ein tudalennau bron i 7.5 miliwn o weithiau.
  • Ar hyn o bryd, dim ond fel offeryn cyfeirio mae ein bot sgwrsio yn gweithredu ond o fewn tri mis cyntaf ei lansio derbyniodd dros 40,000 o geisiadau am wybodaeth.
  • Nid ydym yn gwybod a yw’r bot sgwrsio yn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r wybodaeth maen nhw ei hangen heb orfod cysylltu â ni.
  • Yn seiliedig ar oriau gweithredu o 9am-16.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, mae ein Swyddfeydd Taliadau Arian Parod ar agor i’r cyhoedd am tua 30% o’r amser.
  • Nid yw gwasanaethau a gwybodaeth sy’n ofynnol gan y cwsmer bob amser yn gydgysylltiedig.
  • Gall gwybodaeth sydd ar gael i gwsmeriaid fod yn anodd ei deall, yn hen neu ar goll.
  • Nid yw ein cwsmeriaid bob amser yn ymwybodol o sut mae eu cais yn dod yn ei flaen ac maen nhw’n cysylltu â ni dro ar ôl tro i gael gwybod.
  • Rydym ni’n aml yn aros i gwsmeriaid gysylltu â ni yn hytrach na rhoi gwybod iddynt yn rhagweithiol am faterion sy’n effeithio ar ddarparu gwasanaethau.
  • Nid ydym fel arfer yn ymgymryd â gweithgaredd “gwrando” ar gyfryngau cymdeithasol i diwnio i mewn i’r hyn mae trigolion yn ei ddweud wrth siarad am CBS Torfaen.

Sut mae llwyddiant yn edrych

Rydym ni’n gwrando ar ac yn deall anghenion ein cwsmeriaid ac yn defnyddio’r mewnwelediad hwn i sicrhau bod ein gwasanaethau wedi’u dylunio i ddiwallu’r anghenion hyn. Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn dewis cyrchu gwybodaeth a chymorth ar-lein gan mai dyma’r opsiwn mwyaf cyfleus iddyn nhw, ac mae ganddyn nhw hyder y bydd y wybodaeth maen nhw’n ei chyrchu a’r gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn yn un dda. Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau i sicrhau bod dealltwriaeth eang o’r gwasanaethau mae’r cyngor a’i bartneriaid yn eu darparu a sut y gellir eu cyrchu. Mae nifer y cwsmeriaid sy’n cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb wedi lleihau wrth i fwy o gwsmeriaid allu hunan-wasanaethu ar-lein neu yn eu cymuned ac rydym ni’n dda am roi gwybod i gwsmeriaid am yr hyn sy’n digwydd gyda’u cais. Mae hyn yn golygu bod y rhai sydd angen cymorth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn gallu ei gyrchu’n gyflymach ac yn fwy cyfleus gan fod llai o gwsmeriaid yn dewis yr opsiynau hyn yn gyffredinol, a gall ein staff gwasanaeth cwsmeriaid ateb galwadau neu weld pobl yn gyflymach i ddarparu’r cymorth maen nhw ei angen.

Sut y byddwn ni’n ei wneud?

  • Byddwn yn dylunio gwasanaethau hygyrch sy’n diwallu anghenion ein cwsmer ac yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid hunanwasanaethu lle gallant wneud hynny.
  • Byddwn yn gwella ein gwefan i sicrhau bod gwybodaeth yn berthnasol ac yn gyfredol, yn hawdd dod o hyd iddi a’i deall.
  • Byddwn yn blaenoriaethu gweithgarwch dylunio gwasanaeth gan ganolbwyntio ar feysydd sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein cwsmeriaid a’r sefydliad ac yn cyfleu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn effeithiol.
  • Byddwn yn sicrhau bod data a mewnwelediadau o ansawdd da ar gael yn hawdd yn fewnol a gyda phartneriaid fel y bo’n briodol, i lywio gweithgarwch dylunio gwasanaethau, adrodd ar berfformiad, cyflawni gweithredol a chynllunio strategol.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n adlewyrchu ac yn ategu darpariaeth partner a chymunedol er mwyn sicrhau mynediad hawdd at y lefel gywir o gymorth, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir gan ganolbwyntio’n benodol ar fynediad at wybodaeth a chymorth lles, yn unol â’n Dull Cymunedau.
  • Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd haenog tuag at gymorth Gofal Cwsmer sy’n rhagweithiol yn ôl dyluniad a ble ac sy’n hyrwyddo hunanwasanaeth lle bo hynny’n bosibl ac yn canolbwyntio adnoddau ar y rhai sy’n fwy agored i niwed neu sydd angen cymorth mwy cymhleth.
  • Byddwn yn darparu gwasanaeth pwrpasol i’n cymuned fusnes sy’n diwallu eu hanghenion a’u gofynion penodol wrth gael cymorth ac arweiniad.

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi llwyddo?

How will we know we have succeeded?
Canlyniadau ac EffeithiauTarged (Blynyddol oni nodir yn wahanol)
23/2424/2525/26

Cyfran y trafodion gofal cwsmer a gynhaliwyd ar-lein

75%

80%

85%

Boddhad Cwsmeriaid Galw Torfaen (niwtral neu uwch)

80%

 

 

Ymdrech Cwsmeriaid Galw Torfaen (ddim yn hawdd/anodd, yn hawdd neu hawdd iawn)

80%

 

 

Cyfradd Gadael Galw Torfaen

Gofal Cymdeithasol a’r Bathodyn Glas

3%

3%

3%

Buddion

8%

5%

5%

Y Dreth Gyngor

8%

5%

5%

Yr Holl Wasanaethau Eraill

10%

10%

10%

Amser Ciw Cyfartalog Galw Torfaen

Gofal Cymdeithasol a’r Bathodyn Glas

90 eiliad

60 eiliad

60 eiliad

Buddion

360 eiliad

300 eiliad

300 eiliad

Y Dreth Gyngor

360 eiliad

300 eiliad

300 eiliad

Yr Holl Wasanaethau Eraill

300 eiliad

360 eiliad

420 eiliad

Boddhad Cwsmeriaid Busnes Uniongyrchol Torfaen (niwtral neu uwch)

80%

   

Ymdrech Cwsmeriaid Busnes Uniongyrchol Torfaen (ddim yn

hawdd/anodd, yn hawdd neu yn hawdd iawn)

80%

   

Nôl i’r Brig

Uchelgais B: Bydd cwsmeriaid a staff yn cael eu grymuso i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol

Ble rydyn ni nawr?

  • Nid yw’r systemau sy’n cael eu defnyddio wedi’u optimeiddio ac mae staff yn treulio amser ar dasgau llaw, gweinyddol yn hytrach na chanolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau.
  • Mae prosesau gwasanaeth datgymalog yn arwain at ddyblygu ymdrech.
  • Nid oes gan rai cwsmeriaid y sgiliau na’r mynediad at ddyfeisiau a/ neu gysylltedd i gael mynediad at wasanaethau digidol - nid ydym o reidrwydd yn gwybod pwy ydyn nhw.
  • Nid oes dull cydgysylltiedig o weithgarwch cynhwysiant digidol ar draws y fwrdeistref.
  • Nid oes diffiniad o’r hyn mae sgiliau digidol yn ei olygu i’r sefydliad gan arwain at ddealltwriaeth gyfyngedig o allu digidol ein staff.
  • Nid oes unrhyw ofynion diffiniedig o ran y sgiliau digidol rydym ni eu hangen o fewn y sefydliad i gyflawni’r strategaeth.
  • Mae 49% o’n staff yn teimlo eu bod nhw’n derbyn digon o hyfforddiant i wneud y defnydd gorau o dechnoleg a meddalwedd newydd.
  • Bu cynnydd o 16.7% yn nifer y bobl 65 mlwydd oed a throsodd yn Nhorfaen o 2011-2021.
  • Mae 43% o’n gweithlu dros 50 mlwydd oed.
  • Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cafodd 983 o gwsmeriaid fynediad i sesiynau cymorth digidol yn ein llyfrgelloedd
  • Mae 91% o oedolion Torfaen yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall.
  • Mae gan 89% o gartrefi Torfaen fynediad i’r rhyngrwyd.
  • 98.2% o ddarpariaeth Band Eang Cyflym Iawn yn Nhorfaen (>=30 Mbps).
  • Ffibr Llawn i’r Adeilad (sy’n cael ei alw weithiau yn Wibgyswllt) = 20.25% yn Nhorfaen.

Sut mae llwyddiant yn edrych

Mae cymorth cynhwysiant digidol yn cael ei gydlynu ac mae ein cwsmeriaid yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth i ddatblygu eu sgiliau digidol a’u hyder sy’n golygu y gallant gael gafael ar wybodaeth yn annibynnol a datrys mwyafrif eu hanghenion yn ddigidol a thrwy eu hunain.

Mae cwsmeriaid yn gallu defnyddio dyfeisiau a band eang gwell a chyflymach a gwell darpariaeth symudol gan eu galluogi i ddefnyddio gwasanaethau digidol yn haws.

Mae ein staff yn meddwl yn ddigidol yn gyntaf ac yn cael eu grymuso a’u cefnogi i roi’r cwsmer wrth wraidd dylunio gwasanaethau a gwneud y defnydd gorau o offer digidol sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu rolau, darpariaeth gwasanaeth effeithlon a phrofiad y cwsmer.

Sut y byddwn ni’n ei wneud?

  • Byddwn yn cynyddu cyfran ein preswylwyr sy’n teimlo bod ganddynt y sgiliau a’r hyder i gael mynediad at wasanaethau digidol, gan weithio gyda phartneriaid lle bynnag y bo modd.
  • Byddwn yn sicrhau bod gan ein staff y sgiliau a’r galluoedd i wneud y defnydd gorau o dechnoleg a ffyrdd digidol o weithio.
  • Byddwn yn grymuso staff i gael mynediad priodol at atebion digidol a’u defnyddio i ddatrys problemau a gwella profiad y cwsmer a’n heffeithlonrwydd gweithredol.
  • Byddwn yn cefnogi cwsmeriaid i ddefnyddio ddyfeisiau a chysylltedd i leihau allgáu digidol.

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi llwyddo?  

How will we know we have succeeded?
Canlyniadau ac EffeithiauTarged (Blynyddol oni nodir yn wahanol)

Nifer blynyddol o gwsmeriaid sy’n cyrchu TGCh a Chymorth Digidol yn ein Llyfrgelloedd

1200

% cyfranogwyr y rhaglen cynhwysiant digidol sy’n parhau i fodloni’r sgiliau digidol hanfodol ar ôl 12 mis (Blynyddol)

60%

Nifer blynyddol y dyfeisiau a fenthycwyd drwy’r cynllun

benthyca dyfeisiau

100  (mesur newydd a fydd yn

cael ei adolygu’n flynyddol)

Canran y staff sy’n teimlo bod ganddynt fynediad i ddigon o hyfforddiant i wneud y defnydd gorau o feddalwedd a thechnoleg

70%

Cydymffurfiaeth â Hyfforddiant Diogelu Data

90%

Nôl i’r Brig

Uchelgais C: Defnydd arloesol ac effeithiol o systemau, technoleg ac atebion diogel, cadarn a chydgysylltiedig sy'n gwella profiad y cwsmer a'n mynediad at fewnwelediad data

Ble rydyn ni nawr?

  • Mae gennym ni nifer o systemau TG ac atebion digidol nad ydynt wedi’u cydgysylltu/optimeiddio.
  • Nid yw data bob amser yn cael ei rannu rhwng meysydd gwasanaeth a phartneriaid.
  • Mae llawer o’r seilwaith sydd ei angen eisoes ar waith ac yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau, fodd bynnag, nid yw’n cael ei ddefnyddio’n gyson hyd eithaf ei botensial ledled y sefydliad.
  • Mae gennym ni nifer o gyfrifon cwsmeriaid nad ydynt wedi’u cydgysylltu/optimeiddio.
  • Mae cyfle i ddefnyddio mwy o’r datrysiadau sydd ar gael i ni a rhesymoli nifer y systemau a’r atebion rydym ni’n eu defnyddio.
  • Nid oes gennym un olwg o’r cwsmer ar draws sawl system ac nid oes gennym unrhyw ffordd o adnabod.
  • Mae gennym raddau amrywiol o ansawdd data
  • Nid yw safonau ansawdd data a llywodraethu yn cael eu cymhwyso’n gyffredinol.
  • Nid yw cadw a gwaredu data a gwybodaeth yn cael ei reoli’n awtomatig sy’n golygu ein bod yn storio data a gwybodaeth y gallem eu gwaredu e.e. dyblygu.
  • Rydym yn defnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi byw’n annibynnol ond gallem wneud mwy wrth i dechnoleg newydd ddod i’r amlwg.

Sut mae llwyddiant yn edrych:

Mae ein gwasanaethau digidol yn ddiogel, yn ddibynadwy ac ar gael yn fawr. Mae ein systemau a’n cymwysiadau wedi’u cydgysylltu gan ddarparu gwell dealltwriaeth o’n cwsmeriaid a’u hanghenion a gwella profiad y cwsmer, er enghraifft, cyswllt mwy rhagweithiol a diweddariadau ar geisiadau am wasanaethau a mynediad haws at wybodaeth sy’n seiliedig ar gyfrif.

Mae safonau ansawdd data yn cael eu deall a’u hymgorffori’n dda, a dim ond data perthnasol sy’n cael ei gasglu a’i storio cyhyd ag y mae ei angen gan ei gwneud yn haws cael mynediad at fewnwelediad data a gwybodaeth busnes ar lefel gwasanaeth, sefydliadol a phartneriaeth.

Rydym yn gwneud y defnydd gorau o’r datrysiadau sydd ar gael i ni ac yn sicrhau bod unrhyw ddatrysiadau newydd wedi’u hadolygu a’u cymeradwyo o safbwynt diogelwch anghenion busnes, llywodraethu gwybodaeth a chydymffurfiaeth cyn caffael. Fodd bynnag, rydym yn gyflym i roi cynnig ar bethau newydd, bod yn arloesol a manteisio ar dechnoleg newydd sy’n dod i’r amlwg (Deallusrwydd Artiffisial, LoRaWAN, Smart Tech a’r Rhyngrwyd Pethau, Awtomeiddio Prosesau Robotig ac ati) lle mae’n fuddiol i’n cwsmeriaid ac i ni fel sefydliad mewn perthynas â’r heriau ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu.

Rydym ni’n defnyddio dull cwmwl yn gyntaf o gaffael systemau newydd, gan gydnabod manteision posibl megis ariannol a’r gallu i raddfa, a dim ond cynnal a/neu gaffael atebion newydd ar y safle lle mae gwir angen busnes i wneud hynny.

Rydym yn sicrhau bod ein datrysiadau yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol (ee Hygyrchedd Gwe. Y Gymraeg, Diogelwch, GDPR).

Lle bo’n bosibl, rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau cyfagos wrth gaffael atebion newydd, gan gydnabod y manteision cyffredin o wneud hynny:

  • Pŵer bargeinio ar y cyd sy’n arwain at arbedion maint posibl.
  • Dysgu cyffredin ac adnoddau i ddatblygu atebion unwaith sy’n gweddu i anghenion pob sefydliad.
  • Llai o ofynion cymorth TGCh - unwaith ar gyfer pob partner yn hytrach na chymorth penodol i bob un.

Sut y byddwn ni’n ei wneud?

  • Byddwn yn ymgorffori’r defnydd o ddigidol, data a thechnoleg ledled ein sefydliad i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol.
  • Byddwn yn defnyddio llai o systemau ac atebion sydd wedi’u hintegreiddio’n well, a bydd gennym ni “un golwg” o’r cwsmer fydd yn ein helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol.
  • Byddwn yn sicrhau bod ein systemau a’n datrysiadau ar gael yn helaeth, bod defnydd yn cael ei wneud i’r eithaf a’u bod yn bodloni gofynion busnes.
  • Byddwn yn manteisio ar dechnoleg sy’n dod i’r amlwg ac atebion digidol i gefnogi amcanion strategol, gwella profiad y cwsmer, ein heffeithlonrwydd gweithredol a’n mynediad at ddata a mewnwelediadau.
  • Byddwn yn datblygu ein defnydd o Dechnoleg Gynorthwyol i gefnogi byw’n annibynnol a gweithgarwch atalio/ymyrraeth gynnar. 
  • Byddwn yn defnyddio ein data yn effeithiol ac yn dryloyw ac yn ei reoli yn unol â deddfwriaeth.

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi llwyddo?

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi llwyddo?
Canlyniadau ac EffeithiauTarged (Blynyddol oni nodir yn wahanol)

Tramgwyddau Diogelu Data Adroddadwy

<100

Argaeledd llinell allweddol o gymwysiadau busnes

99.90%

Canran y ceisiadau caffael sy’n gysylltiedig â digidol a thechnoleg a adolygwyd drwy broses Caffael Datrysiadau Digidol

100%

Canran yr Hysbysiadau Preifatrwydd sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol

100%

Canran y Protocolau Rhannu Gwybodaeth (ISPs) a adolygwyd o fewn llinell amser 2 flynedd

100%

Nôl i’r Brig

Dibyniaethau sefydliadol, staff a chwsmeriaid

Er mwyn cyflawni’r strategaeth uchelgeisiol hon:

....rhaid i’r sefydliad wneud y canlynol:

  • Cefnogi staff i ddatblygu sgiliau digidol, data a thechnoleg sy’n briodol i’w rôl a darparu’r amser a’r hyder i’w defnyddio
  • Ymgorffori ac eirioli diwylliant digidol yn gyntaf lle rydym ni’n dylunio gwasanaethau o amgylch anghenion cwsmeriaid, yn gwneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata ac yn defnyddio technoleg yn effeithiol ac yn effeithlon
  • Bod yn barod i fuddsoddi mewn datrysiadau sy’n gwella profiad y cwsmer a’n heffeithlonrwydd gweithredol
  • Gosod blaenoriaethau clir

….rhaid i’r staff wneud y canlynol:

  • Bod yn barod i archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda meddwl agored
  • Siarad allan pan fyddant yn gweld cyfleoedd ynghylch defnyddio Digidol, Data a Thechnoleg
  • Cadw at ofynion cyfreithiol a statudol, canllawiau ac arfer da wrth ddylunio gwasanaethau a phrosesau
  • Trafod gofynion gyda’r t.m Cwsmeriaid, Digidol a TGCh cyn prynu neu ddatblygu datrysiad o’r newydd

….anogir ein cwsmeriaid i wneud y canlynol:

  • Defnyddio ein gwasanaethau ar-lein pan allant fel y gall ein hadnoddau ganolbwyntio ar y rhai na allant fynd ar-lein, pobl fwy agored i niwed a’r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth.
  • Rhoi gwybod i ni os nad yw ein gwasanaethau yn diwallu eu hanghenion neu os ydynt wedi’u cynllunio’n wael a sut y gellid eu gwella.

Nôl i’r Brig

Hyd oes a llywodraethu

  • Oherwydd natur Digidol, Data a Thechnoleg sy’n datblygu’n gyflym, bydd y strategaeth hon yn cwmpasu cyfnod o 3 blynedd.
  • Bydd tri uchelgais strategol eang yn darparu’r cyfeiriad cyffredinol drwy gydol y strategaeth a sail y cynllun cyflawni cysylltiedig.
  • Bydd cynllun cyflawni blynyddol yn sail i’r strategaeth a fydd yn ein galluogi i ymateb i dueddiadau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yng nghyd-destun yr uchelgeisiau strategol ehangach.
  • Bydd llywodraethu yn cael ei ddarparu trwy strwythur Bwrdd Cyflawni’r cyngor a fydd yn monitro cynnydd y rhaglen gyffredinol a phrosiectau unigol o fewn y rhaglen.
  • Bydd Bwrdd Caffael Datrysiadau Digidol yn adolygu ac yn cymeradwyo ceisiadau caffael cysylltiedig . TGCh a Digidol i sicrhau:
    • Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ofynnol (Hygyrchedd, y Gymraeg, GDPR)
    • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio atebion periglor
    • Bydd atebion yn diwallu anghenion gwasanaethau a’u cwsmeriaid

Cysylltiadau Strategol

Mae nifer o ddatblygiadau cadarnhaol wedi bod yn yr awydd am ddigidol ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’u cryfhau ymhellach gan Strategaeth Ddigidol Cymru, a gyhoeddwyd yn 2021, datblygu Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru a recriwtio Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol a chreu Tîm Digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi hynny. Byddwn yn ceisio manteisio ar y datblygiadau hyn a’r cyfleoedd maen nhw’n eu cyflwyno i ddysgu, rhannu arfer da a chydweithio tra hefyd yn chwarae rhan weithredol ym mhartneriaeth Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i yrru ein huchelgeisiau strategol yn eu blaen.

Bydd ein strategaeth hefyd yn sicrhau ein bod yn gweithio’n unol â’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i gyflawni’r uchelgais o Gymru fwy ffyniannus, cydnerth, iachach a mwy cyfartal, gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus. Mae Atodiad B yn amlinellu sut y bydd y strategaeth hon yn cyd-fynd â’r pum ffordd o weithio a amlinellir yn y Ddeddf.

Bydd y strategaeth yn cyd-fynd â chynllun sirol y cyngor a bydd yn alluogwr ar gyfer cyflawni ar draws yr holl amcanion.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/11/2023 Nôl i’r Brig