Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth Diogelu Data
O dan Gyfraith Diogelu Data (GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018) mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i ddiogelu'r data personol y mae'n ei brosesu. Darperir yr hawliau canlynol i unigolion.
Eich Hawliau
- Yr hawl i gael gwybod - Mae gennych hawl i gael gwybod am gasglu a defnyddio'ch data personol. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd am fanylion
- Hawl Mynediad (Cais Gwrthrych am Wybodaeth) - Mae gennych hawl i ofyn am gopi o ddata personol a gedwir amdanoch chi
- Hawl i Gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i gywiro neu gwblhau data personol sy'n anghywir
- Hawl i Ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ddata personol amdanoch chi gael ei ddileu neu ei ddinistrio mewn rhai amgylchiadau. Weithiau gelwir hyn yn “hawl i gael eich anghofio”
- Yr Hawl i Gyfyngu / Peidio / Gwrthwynebu Prosesu - Mae gennych hawl i ofyn bod data personol anghywir amdanoch yn cael ei gyfyngu, neu'n cael ei atal mewn rhai amgylchiadau. O dan yr hawl hon gallwch hefyd ofyn i'ch data beidio â chael ei ddileu na'i ddinistrio
- Hawl i Gludadwyedd Data - Mae gennych hawl i ofyn am gludadwyedd data personol mewn rhai amgylchiadau. Mae hyn yn golygu y gallwch dderbyn data personol amdanoch chi'ch hun mewn fformat cyffredin y gellir ei ddarllen â pheiriant, gallwch ofyn i ddata personol gael ei anfon at sefydliad arall
- Hawl mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd - nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gwneud penderfyniadau na phroffilio awtomataidd a ddaw o dan y diffiniad hwn.
Sut fedrwch chi wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth gennym ni?
Byddai’n gymorth mawr pe gallech wneud eich cais yn ysgrifenedig (trwy lythyr neu e-bost) neu fe allwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth Diogelu Data yma. Os hoffech gyngor neu gymorth i lenwi'r ffurflen hon neu i gyflwyno cais, cysylltwch â'r Tîm Diogelu Data Rheoli Gwybodaeth ar 01495 762200.
Gallwch anfon e-bost atom ar DPA@torfaen.gov.uk
Gallwch ysgrifennu atom: Swyddog Diogelu Data, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.
A oes ffi?
O ran y ceisiadau a restrir uchod, bydd yr awdurdod yn darparu copi o’r wybodaeth yn rhad ac am ddim. Serch hynny, medrwn godi ‘ffi resymol’ (yn seiliedig ar y costau gweinyddol i ddarparu’r wybodaeth hon) pan na fydd sail i’r cais a hynny’n amlwg neu pan fydd yn eithafol, yn enwedig os yw’n ailadroddus.
Gallwn hefyd godi ffi rhesymol i gydymffurfio â cheisiadau am gopïau pellach o’r un wybodaeth.
Pa mor hir yw'r cyfnod i dderbyn ymateb?
Ein nod yw cydnabod ceisiadau, neu ofyn am ragor o wybodaeth i egluro ceisiadau o fewn pum diwrnod gwaith o'u derbyn. Byddwn yn ymateb o fewn mis o dderbyn y wybodaeth angenrheidiol a dogfennau yn profi pwy ydych chi.
Pan fydd ceisiadau'n gymhleth neu'n niferus a byddwn yn teimlo'r angen i ymestyn y cyfnod cydymffurfio ddeufis arall, byddwn yn dweud wrth yr unigolyn cyn pen mis o ddyddiad derbyn y cais, gan egluro pam fod angen yr estyniad.
Pa wybodaeth sydd ei hangen wrth gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth?
Byddai’n gymorth mawr pe byddech yn llenwi ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth, a hynny mor drwyadl â phosibl a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych i chwilio’n ffeiliau a’n systemau am ddata sy’n ymwneud â chi. Gallwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth Diogelu Data yma.
Byddwn yn gofyn am brawf o bwy ydych chi, un copi ffotograffig o bwy ydych chi, fel copi o basbort y sawl sy’n ymgeisio neu drwydded yrru, a thystiolaeth o'ch cyfeiriad, fel copi o fil cyfleustodau.
Bydd angen llythyr caniatâd os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall, mae proses ddilysu yn ei lle.
Fedrwn ni ddarparu’r holl wybodaeth pan fyddwn yn derbyn cais?
Mae er budd y cyhoedd ein bod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol am y gwaith a wnawn.
Mae'n bwysig nad yw'r datgeliadau a wnawn yn tanseilio hyder ac ymddiriedaeth yn yr awdurdod neu'r rhai sy'n gohebu â ni.
Byddwn yn rhoi mynediad at wybodaeth bersonol yn unol â'r gofynion Deddf Diogelu Data (GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018).
Fodd bynnag, bydd achlysuron lle y byddai'n anghywir i ni ddatgelu popeth ee gwybodaeth 3ydd parti a bydd eithriadau yn cael eu cymhwyso. Gellir gweld copi o Eithriadau'r Ddeddf Diogelu Data here under schedules 2,3 and 4.
Apeliadau a Chwynion
Os ydych yn anfodlon â'r ymateb a gawsoch, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig, gan nodi'n glir beth yw'r mater.
Gallwch anfon e-bost atom: DPA@torfaen.gov.uk
Gallwch ysgrifennu atom: Swyddog Corfforaethol Diogelu Data, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Byddwn yn ymdrechu i ddatrys unrhyw broblemau, gan gynnwys adolygu’n penderfyniad gwreiddiol yn fewnol, a hynny dan arweiniad uwch aelodau staff y gwasanaethau cyfreithiol.
Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, os cytunir bod y wybodaeth yn anghyflawn neu anghywir, byddwn yn ei chywiro.
Noder y gallwch wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon. Yn gyffredinol, ni all Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru) wneud penderfyniad oni bai eich bod wedi dod i ddiwedd y broses adolygu fewnol a ddarperir gan y Cyngor hwn.
Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH.
Rhif ffôn: 0330 414 6421
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.gsi.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 05/05/2023
Nôl i’r Brig