Briwgig eidion sawrus neu briwgig Quorn sawrus gyda thatws stwnsh a llysiau tymhorol
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Disgyblion
"Mae nifer y plant nad ydynt yn cael digon o haearn a sinc yn eu diet yn eithaf uchel. I rai o’r plant, gallai bwyta mwy o fwydydd sy’n cynnwys y maetholion hyn wneud gwahaniaeth i’w hwyliau, eu hymddygiad a’u dysgu. Mae’r briwgig cig eidion sawrus yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn a sinc.
Mae ‘na dato potsh i roi egni i’r disgyblion ar gyfer y prynhawn cyfan, ac opsiwn o ddau fath gwahanol o lysiau i gyfrannu at eu 5 y Dydd, felly pam na fyddech chi’n hoffi’r pryd hwn?"
Ydych chi’n ddisgybl ysgol gynradd sy’n blasu’r pryd newydd hwn am y tro cyntaf?
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn. Anfonwch eich adborth i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Byddai’n braf clywed eich sylwadau. Ydy hwn yn bryd llwyddiannus neu oes eisiau i ni wneud rhagor o waith arno?
Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024
Nôl i’r Brig