Syb bysedd pysgod mawr gyda sglodion a salad

Jumbo fish finger sub with chips and side salad

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Dietegydd

"Mae yna lawer o brotein mewn pysgod, ac mae’n fwyd sy’n isel o ran braster ac yn ffynhonnell dda ar gyfer fitaminau a mwynau. Oherwydd hyn, argymhellir ein bod yn bwyta 2 ddogn o bysgod bob wythnos. Mae prydau ysgol yn helpu’n disgyblion i gwrdd â’r targed hwn trwy gynnwys pysgod ar y fwydlen bob wythnos. Mae ein bysedd pysgod wedi eu gorchuddio â briwsion bara, ac nid cytew, a, fel ein sglodion (sydd ar gael bob dydd Gwener yn unig!) yn cael eu pobi yn y ffwrn ar y safle er mwyn lleihau’r braster a’r braster dirlawn. Gweinir salad ar yr ochr fel ei bod yn haws cyrraedd y targed o fwyta 5 y Dydd. Yn ogystal, yn rhan o’n hymrwymiadau i’n cyfrifoldebau amgylcheddol, rydyn ni’n defnyddio pysgod sydd wedi cael ardystiad MSC yn unig, felly mae ein disgyblion yn cael llenwi eu boliau gan wybod eu bod yn helpu i warchod ein cefnforoedd, ein bywoliaeth a stoc bysgod y dyfodol."

Ydych chi’n ddisgybl sy’n blasu hwn am y tro cyntaf?

Mae’r adborth yn awgrymu bod y bysedd pysgod enfawr hyn mor fawr nes eu bod yn dianc trwy ochr y rholyn bara …..rhowch wybod i ni os ydych chi am i’r pryd hwn aros ar fwydlenni’r dyfodol trwy anfon neges e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon