Twrci rhost gyda stwffin, tatws wedi'u rhostio a'u berwi, dewis o lysiau a grefi
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Disgyblion
"Digon ohono ac mae wedi’i goginio’n berffaith" Mia, Croesyceiliog
"Mae cinio twrci rhost yn flasus dros ben" Evie, New Inn
"Cinio twrci rhost yw fy hoff bryd oherwydd mae Cheryl yn gogyddes dda" Hunter, Ysgol Panteg
"Rydw i wrth fy modd â’r cinio twrci oherwydd rydw i wrth fy modd â grefi a stwffin" Lowri, Ysgol Panteg
"Mae’n arbennig o dda ac yn gynnes ac yn flasus bob tro" Alysha, Garnteg
Dewis Ein Dietegydd
"Wedi ei gerfio o ddarn o dwrci, mae ein cinio twrci gyda stwffin yn isel mewn braster a braster dirlawn ond yn ffynhonnell dda o haearn a sinc. Rydym yn rhoi dewis o lysiau i'n cogyddion (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael dewis tatws wedi eu rhostio a'u berwi. Mae ein tatws rhost yn cael eu rhostio yn y popty gyda rhywfaint o olew yr olewydd sef y dewis mwy iach (nid dirlawn) o fraster."
Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2023
Nôl i’r Brig