Teisen moron â hufen

Carrot cake with cream topping

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Disgyblion

"Dyma fy hoff bryd i" Emily ac Arthur, New Inn

"Mae’n anhygoel, y gacen foron orau i fi ei blasu" Bethany, Garnteg

"Dyma fy hoff un i oherwydd mae’n blasu fel moron" Tyler, New Inn

"Rwy’n hoffi’r gwead" Lola

Dewis Ein Dietegydd

"Dydyn ni byth yn colli cyfle i felysu gyda ffrwythau neu lysiau, mae'r teisen yma'n cynnwys moron gratiedig. Mae darn o'r deisen yma'n rhoi Fitamin C eich plentyn am y dydd.  Ond pam yr hufen ar ben? Mae angen rhywfaint o fraster yn y diet i roi fitaminau hydawdd mewn braster i'r corff Yn yr achos yma, mae'r Fitamin A mewn moron yn cael ei hybu gan rywfaint bach o hufen i wneud y pwdin yma'n ffynhonnell dda o Fitamin A.  Pam Fitamin A? Mae Fitamin A'n bwysig ar gyfer system imiwnedd a chroen iach ac mae'n ein helpu ni i weld mewn golau gwan

Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Mae ein ryseitiau a'n bwydlenni'n cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau.

Rwy'n ymgymryd â dadansoddiad o faeth ein bwydlenni ysgolion cynradd cyn cyhoeddi er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cinio ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys, ar gyfartaledd, traean o anghenion maeth dyddiol disgyblion. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer mwyafswm o galorïau, braster, braster dirlawn a siwgr."

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon