Teisen gellyg a siocled gyda saws siocled

Pear and chocolate sponge with chocolate sauce

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Disgyblion

"Mae'r saws yn hyfryd iawn pan fyddwch chi'n cymysgu nhw gyda' gilydd" Leah, Ysgol Gynradd Garnteg

"Rwy'n hoffi'r siocled – oherwydd mae'r saws siocled sy'n rhoi'r blas hylif yna a rhagor o siocled yn hyfryd" Jack, Ysgol Gynradd Garnteg

Dewis Ein Dietegydd

"Rydym bob amser yn benderfynol o ddefnyddio ffrwyth go iawn i felysu pwdinau pa for hynny'n bosibl, defnyddir haneri gellyg yn y deisen yma, ynghyd â phowdwr coco, gan gyfrannu nid yn unig at yr haearn a sinc yn y pwdin yma, ond gan roi blas siocled cyfoethog.

Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Mae ein ryseitiau a bwydlenni wedi eu hystyried yn ofalus i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau, braster neu siwgr, yn yr achos yma mae'r pwdin yn defnyddio powdwr coco braster isel (dim siocled) a llaeth hanner sgim.

Rwy'n ymgymryd â dadansoddiad o faeth ein bwydlenni ysgolion cynradd cyn cyhoeddi er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cinio ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys, ar gyfartaledd, traean o anghenion maeth dyddiol disgyblion. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer mwyafswm o galorïau, braster, braster dirlawn a siwgr."

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon