Pitsa caws a thomato gyda lletemau tatws, ffa pob neu bys

Cheese and tomato pizza with potato wedges, baked beans or peas

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Disgyblion

"Rwy’n hoffi’r pitsa oherwydd rwy’n hoff iawn o’r crwst a’r holl gaws" Isobelle, Llanyrafon

"Mae’n llawn dop â chaws" Freya, Ysgol Panteg

"Mae saws y pitsa mor flasus mae’n diferu i mewn i’ch ceg!" Liam, Garnteg

"Mae’n flasus dros ben ac wedi’i goginio’n berffaith" Tom, Mair a’r Angylion

Dewis Ein Dietegydd

"Rydym yn defnyddio sylfaen blawd cyflawn i'r pitsa, oherwydd dylem ni i gyd fod yn ceisio cynyddu faint o ffibr yr ydym yn ei fwyta i helpu gyda thraul. Rhown domatos a chaws ar ei ben, a’i bobi yn y ffwrn, ac mae hyn yn rhoi calsiwm i’n disgyblion ar gyfer esgyrn a dannedd cryf. Mae ein sglodion, wrth gwrs, yn cael eu pobi yn y ffwrn er mwyn lleihau braster a braster dirlawn. Mae disgyblion yn cael eu hannog i fwyta mwy o lysiau, ac yma rydym yn cynnig ffa pob gyda llai o halen a siwgr neu bys, ac mae’r ddau yn ffynhonnell haearn."

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon