Mae Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Torfaen yn darparu cymorth mewn ysgolion i gynorthwyo disgyblion Sipsiwn Roma Teithwyr a'u hysgolion.

Mae'r cymorth yn cynnwys:

  • Gweithio gyda theuluoedd a meithrinfeydd i gefnogi plant mewn addysg blynyddoedd cynnar
  • Cefnogi’r plant i drosglwyddo i ysgolion
  • Gweithio gyda grwpiau bach neu unigolion mewn ysgolion
  • Datblygu llwybrau dysgu priodol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 ac mewn addysg bellach
  • Darparu adnoddau sy'n adlewyrchu diwylliant Teithwyr
  • Codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant a ffordd o fyw Sipsiwn Teithwyr
  • Cymorth mentora

Gall ysgolion a theuluoedd ddefnyddio’r gwasanaeth.

Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Torfaen