Gall disgyblion oed cynradd sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol eithafol gael eu hasesu yng Nghanolfan Asesu Pont Fach.
Mae'r ganolfan yn Ysgol Gynradd Maendy yng Nghwmbrân ar agor i ddisgyblion o bob rhan o'r fwrdeistref ac mae'n cynnig lleoliad rhan-amser, tymor byr, pwrpasol yn seiliedig ar eu hanghenion unigol.
Mae staff yn cwblhau cyfres o asesiadau i ddeall anghenion emosiynol ac ymddygiadol a galluoedd gwybyddol disgyblion lle nodwyd bod ganddynt faterion sylfaenol o bosibl.
Gall y ganolfan:
- Argymell ffyrdd ymlaen i’r ysgol o ran dychwelyd i’r ysgol
- Cysylltu ag Allgymorth os oes angen cymorth ar ddisgybl sy'n dychwelyd i'r ysgol
- Cysylltu â'r Awdurdod Lleol os na argymhellir dychwelyd i'r ysgol
Cyfeirir disgyblion at Bont Fach gan eu hysgol fel rhan o ymateb graddedig i Anghenion Dysgu Ychwanegol.