Mae gennym swyddog cymorth awtistiaeth sy'n gweithio gyda rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi disgyblion sydd â diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, neu yn y broses o gael diagnosis.

Mae’n darparu:

  • Cyngor un i un i rieni ac ysgolion
  • Sesiynau coffi a sgwrsio mewn ysgolion a grwpiau rhieni lleol
  • Hyfforddiant i deuluoedd plant sydd â diagnosis neu heb ddiagnosis awtistiaeth
  • Cefnogaeth a hyfforddiant i ysgolion, gan gynnwys staff arlwyo
  • Adnoddau ar gyfer ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy ysgol neu weithiwr proffesiynol.

Fel arall, gall rhieni a gofalwyr gysylltu heb atgyfeiriad.