Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn darparu cefnogaeth seicolegol i blant sy’n cael eu hatgyfeirio gan ysgolion, lleoliadau cyn-ysgol neu golegau.

Gall y gefnogaeth gynnwys:

  • Ymgynghoriad a chyngor seicolegol - materion unigol, grŵp ac ysgol gyfan.
  • Asesiadau seicolegol - defnyddio amrywiaeth o ddulliau i lywio ymyriadau.
  • Ymyriadau seicolegol – i hyrwyddo lles seicolegol, datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a chodi safonau addysgol.
  • Darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol - gallu cefnogi eraill o ran dysgu, gwybodaeth ac ymarfer.
  • Cefnogaeth ynghylch digwyddiadau critigol a phrofedigaeth.

Gall seicolegwyr addysg adolygu cynnydd ar ôl gweithredu strategaethau y cytunwyd arnynt.

Gallant hefyd gynnig awgrymiadau i rieni ynghylch sut y gallant helpu eu plentyn i ddatblygu a dysgu.

Os ydych chi'n gofidio am eich plentyn, cysylltwch â'i ysgol, ei gyfleuster gofal plant neu goleg.

Bydd yr ysgol neu'r lleoliad yn gallu ymyrryd a monitro cynnydd. Os bydd yr anawsterau'n parhau, bydd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn hysbysu'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg ac yn gofyn am ymgynghoriad.