Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae gwasanaeth rhanbarthol SenCom (yn agor mewn tab newydd) yn cael ei gynnal gan Gyngor Torfaen sy'n gweithio'n rhanbarthol gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tri thîm:

Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)

Mae ComIT yn wasanaeth ysgol sy'n gweithio i alluogi ysgolion i ganfod a chefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN).

Nod ComIT yw diwallu anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc sydd â diagnosis anghlinigol a'r angen sylfaenol am leferydd, iaith a chyfathrebu pan fo'r angen hwnnw'n effeithio'n ddifrifol ar allu’r plentyn i ddysgu. Mae'r tîm yn cynnwys athrawon ymgynghorol, therapyddion lleferydd ac iaith a chynorthwywyr addysgu arbenigol.

Mae ceisiadau am gefnogaeth i ddisgyblion yn cael eu derbyn yn uniongyrchol gan ysgolion.

Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc B/byddar

Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc B/byddar yn cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc sydd â lefel penodol o fyddardod, i gyflawni eu potensial i’r eithaf ac i gaffael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi camau i’w cynnwys yn llwyddiannus mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion. Mae'r tîm yn cynnwys Athrawon Cymwysedig Plant a Phobl Ifanc Byddar a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.

Mae'r gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos â'r cartref, yr ysgol ac asiantaethau eraill. Ein nod yw meithrin gallu mewn ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion a darparu cymorth â ffocws mewn ymateb i anghenion newidiol plant a phobl ifanc.

Gwneir y rhan fwyaf o atgyfeiriadau trwy weithwyr iechyd proffesiynol sy'n poeni am glyw plentyn neu berson ifanc. Yna cysylltir â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol.

Y Gwasanaeth Nam ar y Golwg

Mae'r gwasanaeth yn darparu arbenigedd ac adnoddau i ysgolion i gefnogi disgyblion â nam ar eu golwg i’w galluogi i gael eu cynnwys yn llawn yn y dysgu. Mae sgiliau byw'n annibynnol a symudedd yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr nam ar y golwg.

Mae’r Gwasanaeth Nam ar y Golwg yn gallu darparu ystod o wasanaethau mewn perthynas ag anghenion yr unigolyn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg neu nam amlsynhwyraidd, rhieni, ysgolion, gwasanaethau addysg/gyrfaoedd ac asiantaethau meddygol i ddiwallu anghenion yr unigolyn fel y nodwyd drwy'r broses asesu.

Rydym yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc a allai fod yn gofidio ynghylch y posibilrwydd o nam ar y golwg neu nam amlsynhwyraidd.

Atgyfeirio am asesiad gan Athro Cymwysedig Nam ar y Golwg a/neu Nam Amlsynhwyraidd (yn agor mewn tab newydd).