Mae gwersi gartref yn cefnogi plant a phobl ifanc o oedran ysgol statudol nad ydynt yn gallu cael mynediad i addysg prif ffrwd oherwydd rhesymau meddygol neu seicolegol. Bydd angen darparu tystiolaeth feddygol i gefnogi unrhyw geisiadau.

Darperir cymorth addysgol gan ysgol y plentyn. Mae’r plentyn yn parhau ar gofrestr yr ysgol. Mae panel Anghenion Dysgu Ychwanegol yn penderfynu a oes angen i ddisgybl gael gwersi gartref.

Mae gwersi gartref yn wahanol i addysg ddewisol yn y cartref, sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘dysgu gartref’, sef pan fydd rhieni yn tynnu eu plentyn o addysg brif ffrwd ac yn cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol am ei addysg.

Beth allwch chi ei ddisgwyl os oes angen gwersi gartref ar eich plentyn:

  • Cynllun addysg sy’n cael ei ddarparu gan yr ysgol
  • Gwersi ar lein sy’n cael ei ddarparu gan Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen
  • Y dewis i gael y gwersi mewn canolfan os oes angen
  • Cysylltiadau ag asiantaethau a all helpu'ch plentyn i ailintegreiddio i addysg prif ffrwd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant.