Canllaw tâl cosb

Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Tâl Cosb, rhaid eich bod wedi parcio yn groes i’r cyfyngiadau parcio.  

Bydd yr union reswm wedi ei nodi ar yr HTC a bydd gennych rif unigryw. Bydd angen i chi ei dalu neu apelio yn ei erbyn. 

Peidio ag anwybyddu HTC. 

Terfynau amser pwysig

  • Os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod, bydd y ddirwy yn gostwng 50%. 
  • Os na fyddwch yn talu, neu os byddwch yn ei herio’n anffurfiol o fewn 28 diwrnod, anfonir ffurflen 'hysbysiad i'r perchennog' at y perchennog cofrestredig yn ôl y DVLA. 
  • Os na fyddwch yn talu neu’n cynnig sylwadau ffurfiol o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y bydd y ffurflen 'hysbysiad i'r perchennog' yn dod i law, cyhoeddir tystysgrif tâl. 
  • Os ydych chi'n cael tystysgrif tâl, rhaid i chi dalu o fewn 14 diwrnod. Nid oes hawl i herio ar yr adeg hon. Os na ddaw taliad i law, gellir mynd ar drywydd adennill dyledion.  

Talu tâl cosb

Herio Hysbysiad Tâl Cosb

Gallwch apelio yn erbyn dirwy barcio unrhyw bryd, hyd at 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd y ddirwy. Fodd bynnag, os byddwch yn apelio yn erbyn eich dirwy o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad y gwnaethoch ei chael, byddwch yn talu'r swm gostyngedig yn unig, hyd yn oed os yw eich apêl yn aflwyddiannus. Os caiff eich apêl ei wrthod, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy lythyr. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Apelio yn erbyn hysbysiad tâl cosb

Pryd y gallwch apelio yn erbyn tâl cosb

Sylwer, mae pob achos yn cael ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich apêl yn llwyddiannus. 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich apêl os oedd y bathodyn glas: 

  • Wedi syrthio oddi ar ffenestr flaen y car
  • Os nad oedd wedi ei ddangos yn glir i’r Swyddog Gorfodi ei weld
  • I apelio yn erbyn yr HTC, rhaid cynnwys copïau o’r ddwy ochr o’r bathodyn glas

Nid oedd unrhyw leoedd parcio ar gael

Ni chaniateir stopio nac aros ar linellau melyn neu mewn ardal gyfyngedig. Os nad oes lleoedd parcio ar gael, rhaid i chi ddod o hyd i rywle arall i barcio. Rydych chi'n atebol am yr hysbysiad tâl cosb. 

Cefais argyfwng meddygol

Os oeddech chi'n rhan o argyfwng meddygol, efallai y byddwn yn ystyried eich apêl. Bydd angen i chi anfon llythyr ffurfiol atom gan weithiwr iechyd proffesiynol a wnaeth eich trin chi neu deithiwr yn syth ar ôl y digwyddiad.  

Mae fy ngherbyd wedi'i glonio

Os ydych wedi cael HTC drwy'r post ac rydych chi'n sicr nad chi oedd hwn, efallai bod rhif cofrestru eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid ei riportio i'r heddlu cyn gynted â phosibl.  

Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad y chi na’ch cerbyd oedd yn bresennol pan gyhoeddwyd y HTC, gallai hyn fod yn ee derbynneb yn dangos dyddiad y diwrnod hwnnw.  

Roeddwn i'n llwytho / dadlwytho

Os oeddech chi’n llwytho neu ddadlwytho nwyddau trwm o'r cerbyd a'ch bod i ffwrdd o'r cerbyd am: 

  • eich bod wedi parcio mor agos ag y gallech i’r lleoliad dosbarthu
  • roedd yr eitem/au yr oeddech chi'n eu dosbarthu naill ai'n fregus, yn anodd eu symud neu'n hynod drwm

Os yw hyn yn wir, efallai y byddwn yn ystyried eich apêl. I brofi eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho, bydd angen i chi brofi beth oeddech chi’n ei wneud drwy ddangos copi ee taflen swydd, y dderbynneb neu'r anfoneb gyda chyfeiriad y lleoliadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ateb y cwestiynau canlynol:

  • Beth oedd pwysau'r eitem / eitemau?
  • Pam nad oedd unrhyw arwydd o weithgaredd i’w weld o amgylch y cerbyd?
  • Pa mor hir wnaethoch chi ei gymryd i gwblhau'r dasg?
  • Pam cymerodd y dasg gymaint o amser?
  • Rhowch ddisgrifiad o'r eitem/eitemau

Roeddwn wedi parcio ar yr ymyl, nid ar y llinellau melyn

Mae llinellau melyn yn ymestyn i'r ymyl gan fod yr ymyl yn rhan o'r briffordd. Rydych yn atebol am yr hysbysiad tâl cosb. 

Doedd dim arwydd

Os oeddech chi wedi parcio ar linellau melyn dwbl, nid oes angen arwydd gan fod llinellau melyn dwbl yn cael eu gorfodi 24 awr y dydd.  Os oeddech chi wedi parcio ar un llinell felen ac nad oedd arwydd ar y stryd, efallai y byddwn yn ystyried eich apêl.  

Bydd angen i chi ddarparu digon o dystiolaeth i ddangos nad oedd unrhyw arwydd, gan gynnwys ffotograffau.   

Roedd fy ngherbyd wedi torri i lawr

Os ydych wedi torri i lawr, disgwylir i chi aros gyda'ch cerbyd hyd nes i’r cerbyd sy’n eich adfer, gyrraedd. Fodd bynnag, os nad yw hynny'n bosibl ac rydych chi'n cael HTC, efallai y byddwn yn ystyried eich apêl.  

Bydd angen i chi roi copi o'ch derbynneb i ni, naill ai gan yr un sy’n darparu’r gwasanaeth adfer neu'r garej; a hynny o fewn 14 diwrnod o#r dyddiad yr ydych yn cael eich hysbysiad tâl cosb

Rwyf wedi cael dau HTC

Efallai y byddwn yn ystyried eich apêl os cafodd y ddau HTC eu: 

  • cyhoeddi ar yr un diwrnod
  • cyhoeddi ar yr un stryd
  • cyhoeddi o dan yr un tramgwydd

Bydd angen i chi ddarparu rhif cofrestru eich cerbyd ynghyd â'r rhif AE wedi'i argraffu ar yr HTC a gyhoeddwyd yr ail dro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch apêl ac yn canslo unrhyw HTC sy'n dod o fewn y categori hwn.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/01/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Ffôn: 01495 762200

Ebost: cpe@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig