Gorfodi parcio
Mae ein swyddogion parcio sifil yn gyfrifol am fonitro rheoliadau parcio a’u gorfodi, i leihau rhwystrau a sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r ffordd, yn cadw’n ddiogel.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am orfodi:
- Llinellau melyn
- Cilfachau parcio i'r anabl
- Safleoedd bysiau a chlirffyrdd
- Meysydd parcio'r Cyngor
- Safleoedd tacsis
- Croesfannau i gerddwyr a marciau igam-ogam
- Ardaloedd parcio dan reolaeth
- Cyrbau (croesfannau cerbydau)
Yr heddlu sy'n gyfrifol am:
- Rhwystrau ar y briffordd
- Cyrbau isel (croesfannau cerbydau) a sefyllfaoedd pan fydd rhwystrau
- Parcio ar balmentydd
- Troseddau traffig sy’n symud
Mae swyddogion gorfodi sifil yn monitro ardaloedd ar droed ac mewn car. Gallant gyhoeddi hysbysiadau cosb o naill ai £70 neu £50, a fydd yn gostwng 50% os cânt eu talu o fewn 14 diwrnod.
Mae gan y cyngor un cerbyd gorfodi symudol sydd wedi'i ffitio â theledu cylch cyfyng (CCTV) a thechnoleg adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig. Bydd gyrwyr sy’n cael eu cofnodi’n parcio'n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion, mewn safleoedd bysiau neu ar linellau igam-ogam yn cael hysbysiad cosb awtomatig drwy'r post.
Mae'r ceir camera yn gweithredu pum diwrnod yr wythnos yn ôl anghenion busnes.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/11/2025
Nôl i’r Brig