Cylchlythyr Y British - Rhifyn 3 (Gwanwyn 2023)

View of the British with a jigsaw piece over layed

Councillor GaudenCroeso i Rifyn 3 cylchlythyr ‘Y British’ gan dîm prosiect Cyngor Torfaen.

Yma fe welwch chi’r newyddion diweddaraf, gan gynnwys y cynnydd mewn perthynas â’r arolygon a gwaith ymchwilio ar y safle a gomisiynwyd yn hydref 2022 fel rhan o’r gwaith Cam 1* (Mae’r cam yma’n hanfodol wrth fynd i’r afael â’r peryglon heriol a hanesyddol i iechyd a diogelwch ar safle’r British ac mae’n ddarn cyntaf yn jig-so Cynllun Mawr safle’r British).

Mae erthygl gan ein partneriaid, Ymddiriedolaeth Natur Gwent (YNG) yn cynnwys newyddion am yr aelod newydd o’u tîm yn ogystal â chyngor ar weld bywyd gwyllt.

Gallwch weld hefyd sut mae’r cwmni nid er elw Cymreig, IDRIS, a Chyngor Torfaen yn ymchwilio i bosibiliadau ynni adnewyddol safle’r British.

Helpwch i leihau digwyddiadau o reidio beiciau modur ar y safle trwy ddweud wrth Heddlu Gwent am unrhyw achosion o hyn. Gallwch weld sut i wneud hyn dros y dudalen!

Cofion gorau

Y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, Cyngor Torfaen

Y Diweddaraf ar Waith Cam 1*

Arolwg hanfodol ar y safle wedi ei gwblhau nawr

Ym Medi 2022, comisiynon ni Quantum Geotechnic Ltd i ymgymryd a gwaith ymchwil helaeth a hanfodol ar y safle. Cafodd cam cyntaf y gwaith hwn a gipiodd ddata deunydd isarwynebol (pridd o dan yr arwyneb) gan ddefnyddio peiriannau ar y safle, ei gwblhau yn ystod Chwefror. Mae’r tîm wedi symud ymlaen nawr at y cam samplo, profi a dadansoddi pridd yn y labordy, a disgwylir i hyn gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2023. Bydd canlyniadau’r gwaith yma’n goleuo dyluniad manwl adferiad mynedfeydd y lofa a’r cynllun traenio uwchben y ddaear (llynnoedd newydd a chwrs dŵr), a byddwn yn rhannu manylion hyn gyda’r gymuned yn y man.

* Cafodd y cam cyntaf yma arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygiad Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Nifer da mewn digwyddiadau ymgysylltiad cymunedol

Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiadau ymgysylltiad cymunedol yn Hydref 2022. Daeth tua 50 o bobl i gwrdd â thîm prosiect Torfaen, gan gynnwys aelod o staff YNG. Cafodd y rheiny a ddaeth gyfle i drafod yr ymchwiliadau ar y safle a’r cynlluniau diweddaraf ar gyfer y cynllun traenio, yn ogystal â gweld yr arddangosfa a fideo. Diolch yn fawr i Glwb Rygbi Tal-y-waun am eu croeso. Cadwch lygad am fwy o ddigwyddiadau’n nes ymlaen yn 2023!

Ymddiriedolaeth Natur Gwent: Newyddion y Gwanwen

Mae’n dda gyda ni gyhoeddi fod aelod newydd o staff, Kevin Donovan, wedi ymuno â thîm YNG fel Swyddog Cymunedol Safle’r British. Bydd Kevin yn parhau gyda’r rhaglen o weithgareddau am ddim dros y misoedd sydd i ddod, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i dderbyn negeseuon a gwybodaeth am ddigwyddiadau.

Mae’r gwanwyn cynnar yn amser gwych ar gyfer gweld bywyd gwyllt. Mae pethau’n dechrau deffro, yn dod i’r amlwg neu’n cyrraedd felly mae digon i’w weld neu i’w glywed. Y gloÿnnod byw cyntaf i edrych amdanynt yw’r Fantell Goch, y Fantell Paun a Melyn y Rhafnwydd, yn enwedig ar ddiwrnodau heulog. Ochr yn ochr â Breninesau’r Cacwn, bydd y peillwyr cynnar yma’n chwilio am flodau Llygad Ebrill a’r Briallu. Bydd y Siff-Siaff a’r Ehedydd ymhlith yr adar cyntaf i ganu yn y gwanwyn, felly gwrandewch am eu crïoedd nodweddiadol. Mae’n werth aros hefyd i syllu ar lynnoedd neu byllau i weld a allwch chi weld grifft llyffaint mewn twmpathau fel jeli. Fel bob amser, rydym hefyd yn ddiolchgar am waith gwirfoddolwyr ar y safle.

Ddigwyddiadau a gweithgareddau YNG, ewch i www.gwentwildlife.org/cy/events

Edrych ar bosibiliadau safle’r British ar gyfer ynni adnewyddol

Cwmni nid er elw Cymreig yw IDRIS a grëwyd i adfywio ein heconomïau lleol mewn ffordd werdd a chynaliadwy. Rydym yn gwybod bod Cymru’n gyfoethog mewn adnoddau a all gynhyrchu swmp sylweddol o ynni rhad, adnewyddadwy a glân.

Mae IDRIS a Chyngor Torfaen yn gweithio gyda’i gilydd gydag IDRIS yn ymgymryd a gwaith dichonoldeb i weld sut mae gwneud y mwyaf o botensial safle’r ‘British’ ar gyfer ynni adnewyddol. Y gobaith yw cynhyrchu ynni gwyrdd o’r dŵr sy’n helaeth yno, yn ogystal ag edrych ar y posibiliadau ar gyfer ynni solar a gwynt. Byddai’r ynni’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned yn Nhorfaen yn unig er mwyn adfywio’r cwm, creu swyddi o ansawdd uchel a chyfleusterau cymunedol newydd.

Mae cam un y datblygiad yn canolbwyntio ar archwiliad trylwyr o safle’r British i benderfynu ar y mannau gorau i gynhyrchu’r ynni adnewyddol y mae ei angen arnom ni ar gyfer ein cynlluniau adfywio yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i barhau i roi gwybod i gymuned Torfaen am ddatblygiadau, felly, gwyliwch yma am ragor o newyddion wrth iddo ddigwydd.

Dweud am reidio beiciau modur oddi ar y ffordd fawr

Ffoniwch 999 neu 101, ewch www.gwent.police.uk a chwblhewch ffurflen ar-lein neu danfonwch neges uniongyrchol trwy Facebook @gwentpolice

I glywed y diweddaraf

European Agricultural Fund for Rural Development Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 03/04/2023 Nôl i’r Brig