Cylchlythyr Y British - Rhifyn 2 (Medi 2022)

View of the British with a jigsaw piece over layed

Councillor GaudenCroeso i Rifyn 2 cylchlythyr ‘The British’, yn cyflwyno newyddion diweddaraf gan dîm prosiect Cyngor Torfaen.

Darllenwch am y gwaith arolygu newydd a fydd yn cael ei gomisiynu yn fuan fel rhan o waith Cyfnod 1. (Mae’r cyfnod hwn yn hanfodol o ran delio gyda’r peryglon iechyd a diogelwch heriol a hanesyddol yn y British a dyma’r rhan gyntaf o jig-so Uwchgynllun y British).

Fel rhan o’n gwaith partneriaeth yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent (YNG), mae ystod o weithgareddau cyffrous eisoes wedi digwydd ar y British drwy gydol y gwanwyn a’r haf. Mae’r rhain wedi cynnwys teithiau tywys, cyfleoedd i wirfoddoli, sesiynau hwyl i’r teulu ynghyd â hyfforddiant sgiliau.

Y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, cyngor Torfaen

Cyfnod 1 - Diweddariad

Gwaith arolwg safle critigol i gychwyn yn ystod yr hydref 2022

Byddwn yn y man yn comisiynu gwaith ymchwil helaeth a fydd yn bwydo gwybodaeth i’r dyluniad manwl ar gyfer gwaith arfaethedig i adfer y fynedfa i’r lofa a chynllun draenio uwchben y ddaear (pwll a chwrs dŵr newydd).

Fel rhan o’r gwaith bydd data tir o dan y ddaear yn cael ei gasglu gydag offer a thechnegau mecanyddol, megis:

  • Arolygon Geoffisegol (electromagnetig /magnetig)
  • Ffosydd a Thyllau Llwybr i gofnodi mathau o bridd a samplo
  • Tyllau cloddio geodechnegol
  • Tyllau Ymchwilio Mynedfa’r Lofa
  • Samplo a phrofi geodechnegol ac amgylcheddol

Bydd gwybodaeth o’r ymchwiliadau hollbwysig hyn yn cael eu defnyddio i leoli pwyntiau mynediad i’r lofa, asesu nodweddion ffisegol y priddoedd a’r creigiau sy’n ffurfio’r tir a darparu paramedrau/strategaeth dir ar gyfer y cynllun draenio arfaethedig.

Mae’r cam cyntaf hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ymddiriedolaeth Natur Gwent ar y British: Diweddariad Gwanwyn / Haf

Ers lansiad ein partneriaeth gydag YNG ym mis Ebrill 2022, mae rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim yn canolbwyntio ar fywyd gwyllt wedi rhoi llawer o gyfleoedd i’r gymuned leol chwarae rhan a dysgu mwy am y British.

Cynigiwyd nifer o deithiau tywys diddordeb arbennig. Mae’r rhain wedi eu harwain gan arbenigwyr fel Liam Olds (arbenigwr infertebratau pridd glofa yn canolbwyntio ar y rhywogaethau sy’n unigryw i’r safle), Gavin Vella (arbenigwr bio-acwsteg a helpodd bobl i weld a chlywed amrywiaeth anferth o adar) a Marion Williams (hanesydd lleol a gwirfoddolwr gydag Amgueddfa Torfaen a ganolbwyntiodd ar hanes diwydiannol helaeth y safle). At hyn, cynhaliodd Llywydd YNG Chris Hatch ac Andy Karran (ecolegydd YNG) deithiau cynefinoedd cyffredinol.

Cynhaliwyd cwrs hyfforddi waliau cerrig sychion yn ystod mis Gorffennaf gyda chymorth Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Draenog. Manteisiodd teuluoedd hefyd ar sesiynau hwyl am ddim megis y rhai gan yr artist lleol Tom Maloney. Roedd y rhain yn cynnwys gêm peillwyr, helfa bwystfilod bach a gwaith celf darlunio gyda sialc. 

Nid yw’r bywyd gwyllt wedi siomi chwaith. Mae amrywiaeth anferth wedi ei weld, gan gynnwys Clochdar y Cerrig, gloÿnnod byw Iâr Fach y Graig, Gwibiwr Llwyd, Barcud Coch, Gwas Neidr Eurdorchog a llawer mwy – yn dangos pa mor anhygoel yw’r bioamrywiaeth ar y safle!

Diolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu gyda hel sbwriel ynghyd ag arolygon gloÿnnod byw a choed hanesyddol – pob un yn helpu i wneud y British yn lle rydyn ni’n ei ddeall yn well!

Rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau YNG yn Gwent Wildlife Trust.

Gwirfoddoli amgylcheddol ar y British!

Cysylltwch â Lyn, Grŵp Cymunedol Cyfeillion y British ar 07967350877

I glywed y diweddaraf

 

European Agricultural Fund for Rural Development Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 20/09/2022 Nôl i’r Brig