Cylchlythyr Y British - Rhifyn 1 (Mawrth 2022)

View of the British with a jigsaw piece over layed

Councillor Gauden“Pleser o’r mwyaf yw eich croesawu i Rifyn 1 o gylchlythyr ‘Y British’, sy’n cyfleu’r cynnydd diweddaraf gan dîm prosiect cyngor Torfaen ar gynlluniau i adfywio hen safle gwaith haearn Talywaun.

Yma gallwch ddarllen am gynnydd cam cyntaf y gwaith (gan gynnwys yr arolygon tir a draenio hynod ddiddorol sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ac sy'n rhoi cipolwg a dadansoddiad hanfodol) sy'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau a'r peryglon ar y safle. Mae newyddion cyffrous hefyd am gyfleoedd ychwanegol i’r gymuned leol gymryd rhan - trwy benodi Swyddog Adfer Natur penodedig yn Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Rhannwch y cylchlythyr hwn gyda ffrindiau a theulu - a chofiwch gofrestru i dderbyn rhifynnau o’r cylchlythyr hwn yn y dyfodol, fydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion am yr holl waith da sy'n digwydd ar safle’r British!!

Y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, Cyngor Torfaen

Cynnydd Cam 1

Fel pob Prif Gynllun gwych, mae angen gosod y darn cyntaf o jig-so yn ei le cyn y gellir gweld y darlun llawn. Yn dilyn llwyddiant digwyddiad “Cwrdd â Thîm y Prosiect” a gynhaliwyd yn hydref 2021 pan gawsom adborth gwerthfawr gan y gymuned leol, rydym yn falch iawn o’r cyfle i rannu ein newyddion cyffrous ynghylch y cynnydd parhaus o ran cam cyntaf y gwaith i adfywio’r safle hanesyddol hwn.

Cyllid ar gyfer Cam 1 y gwaith

Mae cam cyntaf cychwynnol a hanfodol y gwaith hwn yn cael ei ariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd, drwy Weinidogion Cymru, gyda £2.983M* wedi’i neilltuo yn ystod 2021. Ochr yn ochr â hyn, gwnaed ymrwymiadau ariannol sylweddol gan gyngor Torfaen. Mae hyn yn golygu nawr y gellir gwneud y gwaith hanfodol ar gyfer y cam cyntaf. Y nod yw:

  • Gwella diogelwch y pwyntiau mynediad tanddaearol i fwyngloddiau
  • Lleihau’r perygl o lifogydd drwy greu gwrs dŵr a phwll newydd

*Mae’r cam cyntaf hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Gwaith arolwg hanfodol sydd ar y gweill ar hyn o bryd

Er mwyn cyflawni’r uchod, mae angen ymchwiliadau rhagarweiniol a fydd yn galluogi’r Cynghorwyr Technegol (Capita) a benodwyd gan gyngor Torfaen i gasglu a dadansoddi data pwysig ar gyfer y safle (gan gynnwys modelau 3D). Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol i symud ymlaen i brif gam dylunio'r safle a bydd yn helpu i lywio cam nesaf y gwaith ymchwilio.

Y ddau arolwg Tir a Draenio allweddol a gomisiynwyd yn ddiweddar yw:

  • Arolwg Drôn LiDAR - system canfod ac unioni golau a fydd yn helpu i leoli pwyntiau mynediad (siafftiau a cheuffyrdd) ar hyd y cwrs dŵr arfaethedig
  • Arolwg Sianeli mewn Mannau Cyfyng – galluogi ymchwiliad manwl i ‘ollyngfa’ (y pwynt gollwng) ar gyfer y cwrs dŵr arfaethedig

Cyfleoedd i’r gymuned leol gymryd rhan

Ochr yn ochr â cham cychwynnol y gwaith, rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu ystod o gyfleoedd i’r gymuned ehangach gymryd rhan a dysgu llawer mwy am safle ‘Y British’. I’r perwyl hwn, rydym yn gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent (YNG) - ac yn falch iawn o glywed bod Mr Sam Ashman wedi’i benodi’n ddiweddar yn eu tîm fel Swyddog Adfer Natur i oruchwylio’r fath waith ymgysylltu pwysig gyda’r gymuned.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Sam a’i gydweithwyr i ddatblygu ystod o weithgareddau cymunedol/gwirfoddol diddorol ac atyniadol dros y misoedd nesaf, a heb os, bydd Sam yn dechrau sgyrsiau gyda grwpiau lleol amrywiol (rhanddeiliaid) yn fuan iawn.

Yn y cyfamser, os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch yn gyntaf ag YNG drwy e-bostio info@gwentwildlife.org neu ffonio 01600 740600 (dewis opsiwn 5), a chyfeirio at Y British.

DIGWYDDIAD: Byddwch yn Greadigol ar Safle’r British

Dyddiad: Dydd Mercher 13 Ebrill 2022
Lleoliad: Y Bwa Mawr, Y British, Talywaun, Torfaen NP4 7SY
Amser: 10:30am – 12:00pm (sesiwn 1) & 1:30pm – 3:00pm (sesiwn 2)

Hwyl creadigol, difyr i’r teulu oll a chyfle gwych i ddod i wybod pa mor bwysig yw pryfed! Ymunwch â Buglife Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent ar helfa bryfed a gadewch i’ch dychymyg grwydro drwy greu celf yn yr awyr agored! Mae’r digwyddiad hwn sydd AM DDIM wedi ei rhannu dros dwy sesiwn. Un yn y bore ac un arall yn y prynhawn.

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’ch lle.

I gael gwybod mwy ac i archebu, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/268807599767

Oeddech chi’n gwybod ...

Myth: Mae cyllid ar gael i gyflawni holl ddyheadau'r Prif Gynllun

Ffaith: Ar hyn o bryd, mae cyllid ar gael i ddatblygu a chyflawni cam cyntaf y gwaith yn unig

I glywed y diweddaraf

  • Ewch i wefan Y British
  • Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyron a/neu wybodaeth am y gweithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt, cysylltwch â Thîm Prosiect Y British yng nghyngor Torfaen ar 01633 648083.
  • Gallwch hefyd ofyn am fersiwn lliw llawn o Gylchlythyr Mawrth 2022

 

European Agricultural Fund for Rural Development Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 09/03/2022 Nôl i’r Brig