Adeiladau Rhestredig

Ar hyn o bryd, mae 251 o adeiladau rhestredig yn Nhorfaen. Caiff pob adeilad ei restru gan Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru yn dilyn arolwg manwl. Mae tri chategori ar gyfer rhestru:

Gradd I: Adeiladau sydd o ddiddordeb cenedlaethol eithriadol yw'r rhain. Mae 3 ohonynt yn Nhorfaen e.e. Gwaith Haearn Blaenafon.

Gradd II*: Ystyrir bod yr adeiladau hyn o ddiddordeb pensaernïol a/neu hanesyddol arbennig o bwysig. Mae 22 o'r adeiladau hyn yn Nhorfaen e.e. Eglwys Bedyddwyr Stryd y Garan, Pont-y-pŵl.

Gradd II: Mae'r adeiladau hyn o ddiddordeb pensaernïol a/neu hanesyddol arbennig. Mae 226 o'r rhain yn Nhorfaen e.e. Llanfrechfa Grange.

Mae'n drosedd i newid, estyn neu ddymchwel adeilad rhestredig mewn unrhyw ffordd a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol a/neu hanesyddol arbennig, heb gael Caniatâd Adeilad Rhestredig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyntaf. Dylech gysylltu â'r Swyddog Cadwraeth yn gyntaf i weld a oes angen Caniatâd Adeilad Rhestredig arnoch ai peidio.

Gall y Tîm Cadwraeth ddarparu cyngor ar waith arfaethedig cyn i chi wneud cais, a gall roi cyngor ar ddulliau derbyniol o atgyweirio adeiladau hanesyddol gan ddefnyddio technegau a deunyddiau priodol. Os nad ydych yn siwr a yw eich adeilad wedi'i restru ai peidio, y ffordd symlaf o ddarganfod hynny yw gwirio â'r Tîm Cadwraeth lle caiff y rhestr ei chadw.

Gall adeilad gael ei restru unrhyw adeg. Os caiff eich adeilad chi ei restru, cewch wybod gan y Cyngor a Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adfywio Trefol

Ffôn: 01633 648288

Nôl i’r Brig