Pennod newydd i lyfrgell

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Mawrth 2026
Untitled design (92)

Mae Llyfrgell Cwmbrân wedi'i hailenwi'n dilyn galw cynyddol am weithgareddau cymunedol a chymorth.

Mae Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cwmbrân eisoes yn cynnig amrywiaeth o glybiau cymdeithasol, grwpiau, cymorth llesiant a chynhwysiant digidol, mynediad at Gyngor ar Bopeth a gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor - i enwi ond ychydig!

Mae digwyddiadau galw heibio bellach yn cael eu cynnal i annog grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill i ddefnyddio'r gofod.

Dywedodd Stephanie Morgan, arweinydd tîm: "Y dyddiau hyn mae llyfrgelloedd yn dathlu llyfrau a llawer mwy - maen nhw'n lleoedd lle gall pobl ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a darganfod beth sy'n digwydd yn eu cymunedau lleol.

"Un o'r pwyntiau allweddol a ddaeth allan o Gynulliad Dinasyddion Bargen Torfaen oedd pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i gymunedau. Mae llyfrgelloedd yn rhan allweddol o hynny."

Mae arolygon cwsmeriaid diweddar wedi dangos bod ymwelwyr yn hoffi cael gwahanol grwpiau a sefydliadau o dan yr un to mewn lleoliad canolog.

Dywedodd Janet Morris, o Gwmbrân, sy'n mynd i’r sesiynau galw heibio digidol yn yr hwb a'r llyfrgell: "Mae'n awyrgylch braf ac mae pawb yn fodlon helpu. Mae'r sesiwn yn rhoi hyder i mi ddefnyddio fy nyfeisiau fy hun, ac mae'n wych cael lle i fynd i ofyn cwestiynau."

Y llynedd, adnewyddwyd Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cwmbrân i greu lle mwy disglair a mwy hyblyg ac mae cynlluniau i ddatblygu llyfrgelloedd Blaenafon a Phont-y-pŵl fel canolfannau cymunedol yn y blynyddoedd i ddod.

I gael gwybodaeth am weithgareddau yn Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cwmbrân, a Llyfrgelloedd Blaenafon a Phont-y-pŵl, ewch i wefan Cyswllt Torfaen. 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/03/2026 Nôl i’r Brig