Busnesau ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau rhanbarthol

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Hydref 2025

Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent 2025 wedi'u cyhoeddi, gan ddathlu gorchestion rhagorol busnesau a mentrwyr ar draws y tair sir.

Mae un ar bymtheg o fusnesau a pherchnogion busnes o Dorfaen wedi cyrraedd y rhestr fer mewn amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys Busnes Cychwynnol y Flwyddyn, Microfusnes y Flwyddyn ac Entrepreneur y Flwyddyn.

Mae digwyddiad eleni, a drefnwyd gan Grapevine Event Management, wedi cael y nifer uchaf erioed o geisiadau.

Dywedodd Liz Brookes, Cyfarwyddwr Grapevine Event Management: "Rydym yn falch iawn o weld rhai busnesau sy'n dychwelyd o'r llynedd ac yn gobeithio cadw eu teitlau, ochr yn ochr ag amrywiaeth wych o newydd-ddyfodiaid, gan gynnwys amrywiaeth gyffrous o fusnesau Torfaen yn ymuno â ni am y tro cyntaf.

"Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni’n dod at ein gilydd fel cymuned fusnes ac yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb sy'n cyfrannu at yrru ein heconomïau lleol, ac mae'r gwobrau hyn yn rhoi'r cyfle perffaith i ni wneud hynny."

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'n anhygoel gweld cymaint o fusnesau gwych yn Nhorfaen yn cael eu cydnabod. Rydym wedi ymrwymo i fod yn fwrdeistref sy'n denu ac yn cefnogi busnesau newydd a sefydledig i ffynnu. Pob lwc i bawb ac edrychwn ymlaen at ddathlu eich llwyddiant."

Mae o 50 o fusnesau ar y rhestr fer ar draws 14 categori. Byddan nhw nawr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad panel, gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau Tachwedd 27 yng Ngwesty'r Parkway, yng Nghwmbrân.

Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Nhorfaen yw:

Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn

  • Alliance Agency

Entrepreneur y Flwyddyn

  • Allure Cosmetic Enhancements
  • Little Roots Torfaen
  • Cheese Maries

Busnes Arloesi a Thechnoleg Y Flwyddyn

  • AIMAITES
  • Amotio Ltd
  • Airbond

Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn

  • Airbond
  • Volcke Aerosol UK

Busnes Micro’r Flwyddyn

  • Allure Cosmetic Enhancements
  • Neetha’s Kitchen
  • Diversity skin & beauty studio
  • Alliance Agency
  • Edwards Woodworks

Busnes Gwledig y Flwyddyn

  • The Queen Inn 

Busnes Bach neu Ganolig y Flwyddyn

  • Volcke Aerosol UK

Busnes Cychwynnol y Flwyddyn

  • AIMAITES 
  • Little Roots Torfaen
  • Kilted Dragon Distillery Ltd
  • Cheese Maries

Sefydliad Trydydd Sector y Flwyddyn 

  • Hope GB

Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn

  • The Queen Inn
  • Parkway Hotel and Spa

Person Ifanc Busnes y Flwyddyn

  • Diversity skin and beauty studio

Mae’r gwobrau hefyd yn cael eu cefnogi a’u noddi gan: Ystâd Pac Mamheilad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Evermore, Stills a Cleartech Live.

Mae Business News Wales hefyd yn cefnogi Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent fel partner cyfryngau.  Mae cyfleoedd ar gael am nawdd.

Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent - www.tickettailor.com

Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2025 Nôl i’r Brig