Disgyblion yn cyfnewid ceir ar gyfer cerdded a beicio

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Blenheim and Coed Eva

Mae disgyblion o Ysgolion Cynradd Blenheim Road a Choed Efa wedi cael eu canmol am hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw trwy gerdded neu olwyno i'r ysgol.

Cynhaliwyd gwasanaeth ysgol arbennig ddydd Iau 27 Tachwedd i ddathlu eu llwyddiant.

Mae Living Streets, elusen sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo cerdded ac olwyno fel dull diogel, iach a chynaliadwy o deithio, wedi adrodd gostyngiad sylweddol mewn teithiau car yn y ddwy ysgol dros y misoedd diwethaf.

Ers mis Medi, mae nifer y disgyblion sy'n cael eu gyrru at gatiau'r ysgol yn Ysgol Gynradd Blenheim Road wedi gostwng o 14% i 8%, ac yn yr un modd, yn Ysgol Gynradd Coed Eva mae'r niferoedd wedi gostwng o 15% i 7%.

Fel rhan o'r dathliadau, rhoddwyd beic newydd i bob ysgol gan Changing Gearz a phecyn atgyweirio beic gan dîm Teithio Llesol y cyngor.

Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae hwn yn llwyddiant gwych gan ddisgyblion, staff a rhieni.

"Mae teithio llesol yn gwella iechyd a lles ac yn lleihau traffig y tu allan i ysgolion. Rydym yn gobeithio y bydd mwy o ysgolion yn dilyn eu hesiampl."

Meddai Laura Service, Living Streets: "Roedden ni yn Living Streets, wrth ein boddau i gael bod yn rhan o'r diwrnod.

"Roedd yn arbennig o wych clywed gan y disgyblion am yr holl waith maen nhw wedi bod yn ei wneud i annog eu cyd-ddisgyblion i deithio'n llesol i'r ysgol gymaint ag y gallant.

"Mae'n amlwg yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau bob-dydd, gyda chyfleoedd i ddod i gyswllt â byd natur ar hyd y ffordd, sgwrsio â ffrindiau, ac ennill bathodynnau i ddathlu eu dewisiadau ymddygiad cadarnhaol. Da iawn"

Dywedodd Kevin Weaver, o Changing Gearz: "Mae Changing Gearz yn croesawu'r sylw cynyddol ar deithio llesol i ac o ysgolion, rhan allweddol o'n prosiect i hybu lles.

"Mewn partneriaeth â thîm Teithio Llesol y cyngor, byddwn yn atgyweirio'r holl feiciau ysgol, yn creu llyfrgell feiciau i blant heb feiciau, ac yn darparu hyfforddiant sylfaenol i staff gan ddefnyddio pecynnau cymorth a roddwyd - gan rymuso'r gymuned i gofleidio'r fenter gyffrous hon."

Dywedodd Mr Keane, Pennaeth: "Mae'r fenter WOW Tracker – Living Streets wedi bod yn drawsnewidiol wrth newid teithio llesol yn ein dwy ysgol.

"Mae'n ffordd mor hwyliog i'n plant a'n dosbarthiadau gystadlu â nhw eu hunain - a'r cyfan er mwyn cael teuluoedd, cymuned a phlaned fwy heini, hapusach ac iachach.

"Mae wedi arwain at fod gennym ni'r ganran uchaf o blant sy'n teithio mewn ffordd lesol i'r ysgol yn Nhorfaen ond, yn fwy na hynny, mae wedi newid y ffordd y mae ein plant a'n teuluoedd yn meddwl am deithio a'n cymuned - gyda'n hysgolion wrth galon pob dim."

Ar hyn o bryd mae ysgolion y Ffederasiwn ar y brig ar fwrdd olrhain WOW Living Streets yn Nhorfaen, ac mae Blenheim Road yn bumed yng Nghymru.

Mae'r olrheiniwr teithio WOW yn blatfform ar-lein sydd wedi'i gynllunio i annog a monitro teithio llesol i'r ysgol, fel cerdded, beicio, neu sgwtio. Mae'n caniatáu i ddisgyblion gofnodi eu teithiau dyddiol, olrhain cynnydd, ac ennill bathodynnau ar gyfer dewisiadau teithio cynaliadwy.

Gall teuluoedd sydd am barhau â theithio llesol fanteisio ar gynnig Changing Gearz o feiciau cost isel sydd ar gael i'w prynu y Nadolig hwn.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2025 Nôl i’r Brig