Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Awst 2025
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi penodi'r darparwr lletygarwch, BaxterStorey, i fod yn bartner arlwyo yn dilyn trawsnewidiad gwerth miliynau o’r atyniad i ymwelwyr yn Ne Cymru, a fydd yn ailagor ddydd Sadwrn 13 Medi 2025.
Mae'r gwaith adnewyddu helaeth yn cynnwys bwyty " Bwrdd y Ffermwr ", gyda 90 o seddi mewn ystafell wydr newydd â thrawstiau derw trawiadol. Bydd y lleoliad, sy'n cael ei weithredu gan y partner BaxterStorey, yn cynnig bwydlen drwy'r dydd sy'n hyrwyddo cyrchu lleol a chynaliadwyedd, gan gyd-fynd ag ethos ehangach y fferm i'r fforc.
Bydd Bwrdd y Ffermwr ar agor bob dydd i ymwelwyr â'r fferm a'r cyhoedd, a bydd yn cynnig ffefrynnau brecwast, ciniawau cyfoes, a phrydau nodweddiadol fel pitsas wedi'u gwneud â llaw a byrgyrs cig eidion Cymreig.
Mae'r fwydlen dymhorol yn amlygu cynhwysion lleol gan gyflenwyr, gan gynnwys y cigydd o Gwmbrân, Douglas Willis a chynhyrchwyr llaeth a becws cyfagos. Bydd y Siop Fferm yn hyrwyddo bwyd Cymreig ymhellach gydag amrywiaeth wedi'i ddewis o gynnyrch lleol a nwyddau crefft.
Bydd ardaloedd eraill yn arddull caffi yn darparu lleoedd i eistedd a sgwrsio, a Diwifr da i bobl sy'n chwilio am rywle gwahanol ar gyfer eu cyfarfodydd busnes. Bydd cynnig tecawê y Fferm yn cynnwys teisennau a byrbrydau i'r rhai sy'n well ganddynt fachu a gadael, neu sy'n awyddus i fynd i weld yr anifeiliaid ar y Fferm.
Mae'r cyfleusterau newydd yn darparu digon o le dan do i eistedd ac ymlacio beth bynnag yw'r tywydd ac maent i gyd ar gael heb orfod talu i fynd i'r fferm.
Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd BaxterStorey hefyd yn rheoli arlwyo digwyddiadau yn Fferm Greenmeadow, gan gynnwys yr Ysgubor Wair – gofod modern ar gyfer digwyddiadau wedi'i gynllunio ar gyfer priodasau, partïon a derbyniadau corfforaethol.
Bydd y lleoliad yn cynnig profiad bwyta modern a hamddenol gan gynnwys rhostiau mochyn, byrddau cigoedd oer, pitsas wedi'u coginio â choed, a bwydlenni tymhorol pwrpasol, gan ddarparu cynnig bwyd cyfoes i ategu opsiynau arlwyo digwyddiadau pwrpasol y fferm.
Dywedodd Jac Griffiths, Rheolwr Cyffredinol Fferm Gymunedol Greenmeadow:
"Roedd yn bwysig iawn i ni fod y bwyd a'r ddiod sydd ar gael yn y fferm yn adlewyrchu ein gwerthoedd o ran bod yn dymhorol, gyda chynnyrch o ffynonellau da a bwydlen gyda rhywbeth i bawb.
Creodd y fwydlen flasu gan BaxterStorey argraff fawr arnom ni ac fe helpodd ni i benderfynu pa ddarparwr lletygarwch i'w ddefnyddio, ac rydym yn gwybod bod y gymuned leol ac ymwelwyr â'r fferm yn mynd i fwynhau'r bwydydd a'r byrbrydau y bydd Bwrdd y Ffermwr yn eu cynnig."
Dywedodd Daryl Williams, Rheolwr Gweithrediadau, BaxterStorey:
"Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Fferm Gymunedol Greenmeadow, sy'n rhannu ein cariad at fwyd gwych a chysylltiadau cymunedol cryf. Mae ein tîm yn llawn cyffro i ddod â'u crefft a'u creadigrwydd at y bwrdd, gan ddathlu'r gorau mewn cynnyrch Cymreig lleol er mwyn rhoi lletygarwch croesawgar i ymwelwyr a'r gymuned leol."
Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau, y Cyng. Fiona Cross:
"Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn, ac mae'r fwydlen bwyd a diod yn edrych yn wych. Bydd Bwrdd y Ffermwr ar agor i bawb, nid dim ond ymwelwyr â’r fferm, felly bydd yn dod yn ffefryn go iawn gyda thrigolion sydd eisiau cyfarfod am goffi a chacen gyda ffrindiau neu brofiad bwyta arbennig."
Fferm Gymunedol