Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Mai 2024
Mae bwyty ym Mhont-y-pŵl wedi cael ei erlyn am beidio ag arddangos ei sgôr hylendid bwyd yn glir.
Yn dilyn arolygiad gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ym mis Mehefin 2023, rhoddwyd sgôr hylendid bwyd o 1 i The Muddy Toad ym Mhont-y-pŵl, gan ddangos bod gofyn gwneud gwelliannau mawr.
Mewn ail arolwg ym mis Awst 2023, gwelwyd nad oedd modd gweld sticer y sgôr hylendid bwyd am fod potiau planhigion yn y ffordd. Mae’r gyfraith yn gofyn i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid mewn man ble mae modd ei gweld yn glir, er mwyn i ddefnyddwyr gael y wybodaeth i allu dewis yn ddeallus ble maen nhw eisiau bwyta neu siopa am fwyd.
Aethpwyd ati i atgoffa perchennog y busnes bwyd, Mr. Gough o Hospitality and Investments Ltd, ynglŷn â’r gofyniad a gofynnwyd iddo symud y potiau planhigion. Ond, pan ddaeth swyddogion yn ôl ymhen ychydig ddiwrnodau, roedd y planhigion yn cuddio’r sticer sgôr hylendid unwaith eto. Oherwydd hynny rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £200 i Mr Gough, ond dewisodd beidio â’i dalu.
Plediodd Mr Gough yn euog yn y llys i fethu ag arddangos sticer sgôr hylendid bwyd dilys a chafodd ddirwy o £200. Cafodd orchymyn hefyd i gyfrannu £146.40 tuag at gostau’r Cyngor a thalu gordal dioddefwyr o £80.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: “Bwriad y gyfraith sy’n gofyn i fusnesau arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd dilys yw rhoi gwybodaeth glir i ddefnyddwyr am y safonau hylendid bwyd mewn busnesau bwyd.
“Mae’r sgoriau’n galluogi trigolion ac ymwelwyr Torfaen i ddewis ble maen nhw’n prynu eu bwyd yn ddeallus.
“Mae ein swyddogion yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol i gynnal safonau hylendid bwyd a’u gwella, ac mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn arddangos eu sticeri sgôr yn glir.
“Gallai’r erlyniad hwn fod wedi cael ei osgoi petai’r perchennog wedi arddangos ei sticer sgôr dilys yn glir.
“Gallai hefyd fod wedi talu’r Hysbyseb Cosb Benodedig yn hytrach na thalu £426.40.”
Gallwch ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd busnesau yn Nhorfaen yma
I gael rhagor o wybodaeth am hylendid bwyd, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu anfonwch neges e-bost i businessdirect@torfaen.gov.uk
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Cafodd The Muddy Toad arolygiad arall ar 18 Awst 2023 a nawr mae ganddo sgôr hylendid bwyd o 4 (Da).