Cymorth busnes stryd fawr

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 25 Medi 2023
James-Austin-outside-Austin-Co-barbers400x300

Mae gwasanaeth wedi'i lansio i gefnogi busnesau newydd a darpar fusnesau sydd am sefydlu yng nghanol trefi Blaenafon neu Bont-y-pŵl.

Mae tîm yr Economi Sylfaenol yn canolbwyntio ar helpu busnesau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl yn ddyddiol, fel manwerthu, allfeydd bwyd neu driniaethau iechyd a harddwch.

Nod y tîm yw gweithio gyda thua 40 o entrepreneuriaid a phump o fusnesau newydd ym Mlaenafon a Phont-y-pŵl dros y ddwy flynedd nesaf, gyda chynlluniau i ehangu i Gwmbrân yn y dyfodol.

Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys:

  • Mentora 1 i 1 i ddatblygu syniadau busnes
  • Cyfleoedd i hyfforddi a datblygu sgiliau
  • Cyllid grant

Mae'r gwasanaeth newydd yn adeiladu ar gynllun peilot Economi Sylfaenol Torfaen yn 2020 a Phrosiect Cymorth Busnesau Bach Pont-y-pŵl a Blaenafon y llynedd, a roddodd gyngor ariannol ac ymarferol.

Ymhlith y rhai a gafodd gymorth gan y prosiect oedd James Austin, o’r Dafarn Newydd. Cafodd gymorth i sefydlu siop farbwr Austin & Co yng nghanol tref Pont-y-pŵl.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Un o’r amcanion llesiant yng Nghynllun Sirol y Cyngor yw sicrhau bod Torfaen yn lle gwych i gynnal busnes, drwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd. 

"Mae newid mewn arferion siopa yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio canol trefi Blaenafon a Phont-y-pŵl, ond ein gobaith yw, drwy gefnogi busnesau i symud i’r stryd fawr, y byddwn yn helpu i leihau nifer yr eiddo sy’n wag, a denu cwsmeriaid yn ôl."

Mae tîm yr Economi Sylfaenol yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch ar businessdirect@torfaen.gov.uk

 Dysgu mwy am Gynllun Sirol Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2023 Nôl i’r Brig