Gwasanaeth Caffael Cydweithredol Newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 25 Hydref 2023
Ardal Teams background TCBC Big Pit

Mae Cyngor Torfaen wedi ymuno â gwasanaeth caffael newydd a fydd yn canolbwyntio ar brynu busnesau cymdeithasol-gyfrifol, mwy o gydweithio a mwy o effaith ar y gymuned.

Mae’r gwasanaeth wedi ei lansio gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Ardal - partneriaeth caffael gydweithredol gyda Chyngor Torfaen, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Bro Morgannwg.

Bydd Ardal yn ffrwyno sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yng Nghynghorau cynllun Ardal, a phartneriaid eraill, i ddatblygu atebion enghreifftiol o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gaffael cydweithredol, ystwyth.

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Adnoddau, y Cynghorydd  Susan Morgan:

“Rydym wedi ein cyffroi’n fawr gan y cyfleoedd sy’n dod trwy Ardal.  Trwy’r gwasanaeth newydd yma, bydd y cyngor yn cymryd camau beiddgar i daclo anghydraddoldeb, gwarchod ein hamgylchedd ac addasu i fyd sy’n cael ei ailffurfio gan newid yn yr hinsawdd.  Mae’r awydd i greu cymunedau gwell trwy gaffael cymdeithasol-gyfrifol a phartneriaethau gydag elusennau a phartneriaid cymunedol sy’n dod â newid gweladwy a chadarnhaol, yn rhan allweddol o’n gwaith.

“Bydd y dull newydd yma’n helpu’r cyngor i gyflawni rhai o amcanion allweddol y Cynllun Sirol, gan gynnwys helpu i leihau allyriadau carbon at Sero Net erbyn 2030 a gwelliannau i’r amgylchedd lleol, yn ogystal â sicrhau bod gwariant caffael yn fwy hygyrch i fusnesau bach, lleol a’r trydydd sector.

“Bydd hefyd yn ceisio gwella arferion Gwaith Teg, Cydraddoldeb a Diogelu a fabwysiadwyd gan gyflenwyr a chynyddu buddion i’r gymuned wedi eu cyflwyno gan gyflenwyr, a fydd yn cael eu holrhain a’u mesur i sicrhau effaith gymdeithasol, wirioneddol.”

“Mae cael gwerth am arian, sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol a llywodraethiant gwydn a thryloyw, yn ogystal â hyrwyddo atebion arloesol ac arfer gorau, yn bileri craidd naturiol dulliau Ardal.”

Mae’r cydweithrediad newydd wedi ei ffurfio i ddiwallu anghenion tirwedd caffael sy’n newid yn gyflym ac i gynnig atebion yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Bydd gwasanaeth caffael Ardal yn parhau i reoli fframweithiau cydweithredol rhanbarth de ddwyrain Cymru sydd wedi eu hen sefydlu, SEWSCAP (fframwaith adeiladwaith), a gwblhaodd gwerth £1bn o brosiectau gyda’r agor Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, SEWH (fframwaith priffyrdd) a SEWTAPS (fframwaith gwasanaethau technegol a phroffesiynol).

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://ardal-caffael.llyw.cymru  

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2023 Nôl i’r Brig