Digwyddiad Menywod mewn Busnes

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Hydref 2023
WIB19 - Ladies Laughing & Networking

Cynhelir noson o ddathlu menywod sy’n arwain mewn busnes yng Nghwmbrân fis nesaf.

Bydd Menywod Torfaen mewn Busnes yn cynnwys siaradwyr gwadd, cyfleoedd i rwydweithio a marchnad fach Nadoligaidd gyda stondinau busnesau lleol.

Bydd Nikola Masters, perchennog Meithrinfa Osborne Lodge ym Mhont-y-pŵl, yn bresennol a dywedodd: Mae Menywod Torfaen mewn Busnes yn gyfle gwych i gwrdd, sgwrsio a chysylltu â menywod eraill mewn busnes sy’n rhannu’r un ethos. 

"Does dim llawer o ddigwyddiadau eraill fel hyn sy’n canolbwyntio ar ddod â menywod busnes ynghyd i greu cysylltiadau a chwrdd â phobl na fydden nhw fel arall yn dod i gysylltiad â nhw. 

"Rydw i wedi bod yn dod i’r digwyddiadau yma ers sawl blwyddyn ac rwy’n elwa cymaint, maen nhw’n un o ddiwrnodau amlycaf y calendr busnes yn y rhan yma o Gymru ac yn allweddol i unrhyw fenyw mewn busnes."

Mae’n bedair blynedd ers digwyddiad diwethaf Menywod Torfaen mewn Busnes oherwydd Covid.  Mae digwyddiad eleni wedi ei ariannu gan Gyngor Torfaen a Chronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd digwyddiad eleni yng Ngwesty Parkway ar ddydd Mercher, 22 Tachwedd, rhwng 4:30pm a 8pm, a bydd yn cynnwys y siaradwyr gwadd Kelli Aspland a Laura Waters o Solar Buddies, Cwmbrân, a chyn Rheolwr Gyfarwyddwr Prosiect Eden, Gaynor Coley, o Gwmbrân.  

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae awydd wedi bod ymhlith menywod busnes i weld y digwyddiad yma’n dychwelyd – mae gan y menywod sy’n dod frwdfrydedd anhygoel ac egni ar gyfer eu busnesau yn ogystal â busnesau menywod eraill.

"Mae gyda ni arlwy anhygoel o siaradwyr gwadd ysbrydoledig, byrddau masnach a chyfleoedd i rwydweithio ac rwy’n edrych ymlaen at weld cynifer i fenywod busnes yno â phosibl."

Mae tocynnau’n £12 yr un, neu’n £15 gyda baner sbonc, ac yn £25 am docyn a bwrdd masnach.  Gallwch archebu tocynnau o Fenywod Torfaen mewn Busnes.

I ofyn am fwrdd masnach neu ragor o wybodaeth, danfonwch e-bost at businessdirect@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2023 Nôl i’r Brig